Louise von Gall
Awdures o'r Almaen oedd Louise von Gall (19 Medi 1815 - 16 Mawrth 1855) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur.
Louise von Gall | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1815 Darmstadt |
Bu farw | 16 Mawrth 1855 Sassenberg |
Dinasyddiaeth | Archddugiaeth Hessen |
Galwedigaeth | llenor |
Ganwyd Johanna Udalrike Louise Gerhardine Freiin von Gall, y nofelydd a'r beirniad cymdeithasol o'r 19g, yn Darmstadt, yr Almaen ac yno y treuliodd ei phlentyndod cynnar. Bu farw ei thad, y Cadfridog Ludwig Friedrich Christian Wilhelm Philipp von Gall, cyn ei geni. Arferai fynd gyda'i mam, Friedrike gennant von Mueller, ar sawl taith i Fiena. lle cyhoeddodd ei gweithiau cyntaf. Yn dilyn marwolaeth ei mam yn 1841 dychwelodd i Darmstadt, lle daeth yn gyfeillgar gyda Ida a Ferdinand Freiligrath. Tuag at ddiwedd 1842 argymhellodd ei chyfeillion y dylai ddechrau llythyru gyda'r awdur Levin Schücking, ac yn dilyn o hynny fe'i priododd ym mis Hydref 1843.[1] Ganwyd pum plentyn iddynt. Ym mis Medi 1852 symudodd y teulu i Sassenberg yn Warendorf ond bu Louise yn anhapus iawn yno fel Protestant oedd wedi ei hamgylchynu gan Gatholigiaeth. Cafwyd ymgais fethiannus i ymgartrefu yn Darmstadt unwaith eto ym mis hydref 1853. Bu farw Louise Schücking ym mis Mawrth 1855 ac yn groes i'w hewyllys, fe'i claddwyd yn Sassenberg. Mae ei bedd wedi ei diogelu ym mlaen yr eglwys yno.[2]
Rhwng 1830 ac 1831 bu'n byw yn y Schenkendorfstraße yn Mannheim lle dysgodd Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg ac yma hefyd fe dderbyniodd wersi canu. Cyhoeddodd ei gweithiau cyntaf yn Fiena o dan y ffugenw 'Louis Leo'. Cyfansoddodd nifer o ddramâu a dwy nofel. Rhwng 1840 ac 1854 bu'n gweithio ar sawl cylchgrawn ac almanac yn ogystal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Schücking, Levin", 1911 Encyclopædia Britannica Volume 24, https://en.wikisource.org/wiki/1911_Encyclop%C3%A6dia_Britannica/Sch%C3%BCcking,_Levin, adalwyd 2020-02-05
- ↑ Julius Kindler von Knobloch (1898). Badische Historische Kommission (gol.). Oberbadisches Geschlechterbuch. (Band 1): A - Ha. Heidelberg. tt. 420–421.