Lowri Haf Cooke

llenor

Awdur, darlledwraig, adolygydd a golygydd cylchgrawn o Gaerdydd yw Lowri Haf Cooke.[1]

Lowri Haf Cooke
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, ymchwilydd, golygydd Edit this on Wikidata

Mae Lowri Haf Cooke yn byw yng Nghaerdydd, ac yn darlledu ar raglenni S4C a BBC Cymru. Bu'n ymchwilydd a chynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru ac yn gweithio ar amrywiaeth o raglenni megis Stiwdio, Pawb a'i Brofiad, C2, Hywel a Nia, Y Celfyddydau a Diwrnod yn y Ddinas. Hi yw awdur blog Merch y Ddinas. Mae'n adolygydd ffilm, theatr a llen ac yn olygydd cylchgrawn Taste Blas, sy'n dathlu bwyd a diod ledled Cymru. Mae'n un o gyfranwyr blog Y Twll, yn golofnydd papur bro Y Dinesydd, ac yn adolygu bwytai ar gyfer cylchgronau Barn a Red Handed. Hi yw awdures Canllaw Bach Caerdydd (2012), Pobol y Cwm - Pen-Blwydd Hapus 40 (2014), Caffis Cymru (2016) a Bwytai Cymru (2018).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 1848517874". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lowri Haf Cooke ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.