Anturiaethwraig, athletwraig eithaf, jyni adrenalin, a chyflwynwraig deledu S4C yw Lowri Morgan. Daw yn wreiddiol o Abertawe a mynychodd Ysgol Gyfun Gŵyr[1] cyn parhau a'i hastudiaethau gan wneud gradd yng Ngherddoriaeth. Bellach mae Lowri wedi mwynhau gyrfa fel cyflwynwraig ar raglenni chwaraeon, rhaglenni plant a rhaglenni dogfen, ac mae wedi ennill sawl gwobr. Mae'i gwaith teledu wedi'i galluogi i ymweld â llefydd megis diffeithdir Namib a lleoliadau pencampwriaeth ralio ryngwladol.

Lowri Morgan
Ganwyd1975 Edit this on Wikidata
Tre-gŵyr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd, rhedwr marathon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lowrimorgan.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae hi hefyd yn un o 80 o bobl yn unig sydd wedi deifio i weld gweddillion y Titanic.[2]

Mae hi wedi cyhoeddi llyfr am ei hanturiaethau rhedeg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lowri's Surprise Birthday Treat Captured on Live TV Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Fferm Clyne. Adalwyd 31-07-2009
  2. Morgan's frigate filmed on ocean bed Wales Online. 26-10-2004. Adalwyd ar 31-07-2009


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lowri Morgan ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.