Lucius Licinius Lucullus
Cadfridog a chonswl Rhufeinig oedd Lucius Licinius Lucullus (tua 118 - 56 CC).
Lucius Licinius Lucullus | |
---|---|
Ganwyd | c. 117 CC Rhufain hynafol |
Bu farw | c. 57 CC Unknown |
Man preswyl | Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | quaestor, aedile, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Praetor |
Plaid Wleidyddol | optimates |
Tad | Lucius Licinius Lucullus |
Mam | Caecilia Metella |
Priod | Clodia, Servilia Minor |
Plant | Unknown, Licinia, Marcus Licinius Lucullus |
Perthnasau | Faustus Cornelius Sulla, Fausta Cornelia, Cornelia Postuma |
Llinach | Licinii Luculli |
Ganed Lucullus yn Rhufain, yn aelod o deulu amlwg. Dechreuodd ei wasanaeth milwrol fel tribwn milwrol yn ystod Rhyfel y Cyngheiriaid (91–88 CC), yn gwasanaethu dan Sulla, oedd yn perthyn iddo trwy briodas. Fel quaestor yn 88 CC, ef oedd yr unig un o swyddogion Sulla i'w gefnogi pan ddefnyddiodd ei fyddin i gipio grym yn Rhufain.
Bu'n ymladd dan Sulla yn y cyntaf o ryfeloedd Rhufain yn erbbyn Mithridate VI, brenin Pontus. Ef oedd yn gyfrifol am y llynges Rufeinig, ac ym Mrwydr Tenedos gorchfygodd Neoptolemus, llynghesydd Mithridates. Wedi gwneud cytundeb heddwch a Mithridates, arhosodd Lucullus yn Asia i gasglu'r arian oedd yn ddyledus gan y dalaith fel dirwy am wrthryfela.
Daeth yn gonswl yn 74 CC, gyda Marcus Aurelius Cotta, ewythr Iŵl Cesar. Yn wreiddiol, rhoddwyd talaith Gallia Cisalpina iddo i'w llywodraethu, ond llwyddodd i'w newid i Cilicia er mwyn medru ymladdd yn erbyn Mithridates eto. Enillodd nifer o fuddugoliaethau dros Mithridates, a'i orfodi i encilio i Pontus. Ymosododd ar Tigranes Fawr, brenin Armenia, oedd mewn cynghrair a Mithridates, a'i orchfygu mewn brwydr ger ei brifddinas, Tigranocerta. Enillodd fuddugoliaeth arall dros Tigranes a Mithridates ym mrwydr Artaxata ar 6 Hydref 68 CC, ond erbyn hyn roedd anfodlonrwydd ymhlith ei filwyr, a gallodd Tigranes a Mithridates gipio rhan o'u teyrnasoedd yn ôl. Llwyddodd Gnaeus Pompeius Magnus i berswadio'r Senedd i alw Lucullus yn ôl i Rufain a'i wneud ef ei hun yn gadfridog i orffen y rhyfel.
Surodd hyn Lucullus, ac ymddeolodd i fywyd preifat. Dath yn enwog am foethusrwydd ei ffordd o fyw, gan ddefnyddio'r cyfoeth roedd wedi ei gasglu yn y dwyrain.