Lucy Stone

Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Lucy Stone (13 Awst 1818 - 19 Hydref 1893) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, golygydd, ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched (etholfraint) ac yn erbyn caethwasiaeth.[1]

Lucy Stone
Sm lucy stone 3d02055r.jpg
Ganwyd13 Awst 1818 Edit this on Wikidata
West Brookfield, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1893, 18 Hydref 1893 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Oberlin
  • Coleg Mount Holyoke
  • Wilbraham & Monson Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ffeminist, golygydd, diddymwr caethwasiaeth, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét Edit this on Wikidata
PriodHenry Browne Blackwell Edit this on Wikidata
PlantAlice Stone Blackwell Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn West Brookfield, Massachusetts a bu farw yn Boston o ganser y stumog. Mynychodd Goleg Oberlin a Choleg Mount Holyoke. Bu'n briod i Henry Browne Blackwell ac roedd Alice Stone Blackwell yn blentyn iddi. [2][3][4][5][6]

Stone oedd y fenyw gyntaf o Massachusetts i ennill gradd coleg, a hynny yn 1847. Siaradodd dros hawliau menywod ac yn erbyn caethwasiaeth ar adeg pan oedd rhagfarn yn erbyn menywod adeg pan ataliwyd nhw rhag siarad yn gyhoeddus. Roedd Stone yn adnabyddus am ddefnyddio ei henw geni ar ôl priodi, yn hytrach na chymryd cyfenw eu gŵr.

Arweiniodd gweithgareddau Stone dros achos hawliau menywod at enillion a newid deddfwriaethol, a hynny yn amgylchedd gwleidyddol anodd y 19g. Helpodd Stone i sefydlu Confensiwn Cenedlaethol Hawliau Menywod cyntaf yn Worcester, Massachusetts.

Siaradodd Stone o flaen nifer o gyrff deddfwriaethol i hyrwyddo deddfau er mwyn rhoi mwy o hawliau i fenywod. Cynorthwyodd hefyd i sefydlu Cynghrair Teyrngarwch Cenedlaethol y Fenyw (Woman's National Loyal League) i helpu i basio'r "Trydydd Gwelliant ar Ddeg" (the Thirteenth Amendment) a thrwy hynny ddileu caethwasiaeth; ar ôl hynny, cyd-sefydlodd American Woman Suffrage Association (AWSA)'.

MagwraethGolygu

Fe'i ganed ar fferm ei theulu yn Coy's Hill yn West Brookfield, Massachusetts. Hi oedd yr wythfed o naw o blant a anwyd i Hannah Matthews a Francis Stone; cafodd ei magu gyda thri brawd a thair chwaer, a bu i ddau frawd neu chwaer farw cyn iddi gael ei geni. Aelod arall o aelwyd Stone oedd Sarah Barr, "Modryb Sally" i'r plant - chwaer i Francis a oedd yn ddibynnol ar ei brawd.[7]

Dywedodd un tro mai "un ewyllus oedd yn y teulu, ac ewyllus fy nhad oedd hwnnw." Enillodd Hannah Stone incwm bychan trwy werthu wyau a chaws ond gwrthodwyd unrhyw reolaeth iddi dros yr arian hwnnw, weithiau gwrthododd arian iddi brynu pethau yr oedd Francis yn eu hystyried yn ddibwys. Gan gredu bod ganddi hawl i'w henillion ei hun, roedd Hannah weithiau'n dwyn darnau arian o'i bwrs neu'n gwerthu caws yn gyfrinachol.[8]

Gwaith a cholegGolygu

 
Lucy Stone yn 1881

Yn 16 oed, dechreuodd Stone ddysgu yn ysgolion yr ardal, fel y gwnaeth ei brodyr a'i chwaer, Rhoda. Roedd ei chyflog cychwynnol o $1.00 y dydd yn llawer is na chyflog athrawon gwrywaidd, a phan weithiodd yn lle ei brawd, Bowman, un gaeaf, derbyniodd lai o dâl nag a gafodd ef. Pan wrthdystiodd i bwyllgor yr ysgol ei bod wedi cyflawni'r gwaith yn union fel Bowman, atebodd na allent roi "dim ond tâl merch iddi."[9]

Ar ôl penderfynu cael yr addysg orau posib, cofrestrodd Stone yn Seminar Menywod Mount Holyoke ym 1839, yn 21 oed, ond cafodd ei siomi gymaint yn anoddefgarwch Mary Lyons o unrhyw siarad am newid y sefydliad a hawliau menywod nes iddi dynnu'n ôl ar ôl un tymor yn unig. Ymhen mis roedd wedi cofrestru yn yr Academi Wesleaidd (a newidiodd ei enw'n ddiweddarach i Academi Wilbraham & Monson) a oedd yn llawer mwy at ei dant: "Penderfynwyd gan fwyafrif mawr yn ein cymdeithas lenyddol y diwrnod o'r blaen," sgwennodd at ei brawd , "y dylai merched gymysgu mewn gwleidyddiaeth, mynd i'r Senedd, ac ati!" [10]

Ar ôl cwblhau blwyddyn yn Academi Monson yn ystod haf 1841, dysgodd Stone fod Sefydliad Colegol Oberlin (Oberlin Collegiate Institute) yn Ohio wedi newid i fod y coleg cyntaf drwy'r wlad i dderbyn menywod ac wedi rhoi graddau coleg i dair merch. Cofrestrodd Stone yn Seminar Quaboag yn Warren, lle darllenodd Virgil a Sophocles ac astudio gramadeg Lladin a Groeg i baratoi ar gyfer arholiadau mynediad Oberlin.[11]

Yn ei thrydedd flwyddyn yn Oberlin, cyfeilliodd Stone ag Antoinette Brown, diddymwr a suffragist a ddaeth i Oberlin ym 1845 i astudio i ddod yn weinidog. Byddai Stone a Brown yn priodi dau frawd a gredai, fel nhw, mewn diddymu deddfau a oedd yn caniatau caethwasiaeth, gan ddod yn chwiorydd yng nghyfraith.[12]

AnrhydeddauGolygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1987)[13] .

CyfeiriadauGolygu

  1. Electronic Oberlin Group. Oberlin: Yesterday, Today, Tomorrow... Lucy Stone (1818-1893). Adalwyd 9 Mai 2009.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12424219g; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Lucy_Stone.
  4. Rhyw: OCLC. (yn mul), Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 27945789, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 28 Ebrill 2014 Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103
  5. Dyddiad geni: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Lucy_Stone.
  6. Man geni: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Lucy_Stone.
  7. Million, 2003, t. 6.
  8. Million, 2003, tt. 11, 282 note 19.
  9. Kerr, 1992, p. 23; Million, 2003, t. 19.
  10. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/lucy-stone/.
  11. Kerr, 1992, t. 28.
  12. Oberlin College. Electronic Oberlin Group. Oberlin: Yesterday, Today, Tomorrow... Chapter 10. Oberlin Women. Adalwyd 16 Mawrth 2009.
  13. https://www.womenofthehall.org/inductee/lucy-stone/.