Luis A. Martínez

Llenor, arlunydd, a gwleidydd rhyddfrydol o Ecwador oedd Luis Alfredo Martínez Holguín (23 Mehefin 186927 Tachwedd 1909) sydd yn nodedig am gyflwyno realaeth i lên Ecwador gyda'i nofel A la Costa (1904).

Luis A. Martínez
Ganwyd23 Mehefin 1869 Edit this on Wikidata
Ambato Edit this on Wikidata
Bu farw26 Tachwedd 1909 Edit this on Wikidata
Ambato Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEcwador Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, arlunydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddNational Assembly Deputy Edit this on Wikidata
Adnabyddus amA la costa Edit this on Wikidata
PlantBlanca Martínez Mera Edit this on Wikidata

Ganed yn ninas San Juan de Ambato yn fab i Nicolás Martínez Vásconez ac Adelaide Holguín Naranjo. Mynychodd yr Escuela de la Merced yn Ambato cyn aeth i Quito i astudio yn Colegio San Gabriel dan yr Iesuwyr. Gadawodd yr ysgol ym 1886 heb raddio ac ymdynghedai i lenydda. Dychwelodd i Ambato i weithio ar ystadau amaethyddol ei dad.[1]

Penodwyd Martínez yn Ddirprwy Gwleidyddol dros Mulalillo ym 1894. Adeg sgandal "La Venta de la Bandera", pan gafodd arfau eu gwerthu i Japan gan lysgennad Ecwador yn Tsile, mynegodd Martínez ei wrthwynebiad i lywodraeth yr Arlywydd Luis Cordero. Ymunodd Martínez â'r chwyldro rhyddfrydol yn Guayaquil ym Mehefin 1895 a lwyddodd i sefydlu arlywyddiaeth Eloy Alfaro. Etholwyd Martínez yn ddirprwy dros dalaith Tungurahua yn y Gyngres Genedlaethol o 1898 i 1899. Fe'i penodwyd yn rheolwr a gweinyddwr y cwmni siwgr Ingenio Valdez, ym Milagro, ym 1900. Ar 31 Awst 1903 cafodd ei benodi yn Bennaeth Gwleidyddol Ambato gan yr Arlywydd Leónidas Plaza, a deufis yn ddiweddarach aeth i Quito i wasanaethu yn is-weinidog addysg Ecwador. Fe'i dyrchafwyd yn weinidog addysg ym 1904 ac yn ei swydd sefydlodd sawl ysgol a chanolfan amaethyddol ar draws y wlad, gan gynnwys Cyfadran y Gwyddorau, Ysgol y Celfyddydau Cain a'r Ysgol Amaethyddol Normal yn Ambato, a gweithiodd i uno'r cwricwlwm yn Ecwador. Cynlluniodd hefyd i ffurfio ysgolion mwyngloddio, diwydiannol, masnachol, ac ati.[1]

Ym 1903 cyhoeddodd Martínez ei weithiau Disparates y Caricaturas a Camino al Oriente. Cyhoeddwyd ei nofel enwog, A la Costa, ym 1904. Ym 1905 cyhoeddodd ddau lyfr ar bwnc amaeth, Catecismo de Agricultura a La Agricultura Ecuatoriana. Bu hefyd yn paentio tirluniau a golygfeydd o fyd natur, ac ym 1903 fe'i comisiynwyd i baentio sawl llun fel rhodd o Ecwador i'r Pab Leo XIII.[1]

Priododd Luis A. Martínez â María Rosa Mera Iturralde ym 1896. Yn sgil ei marwolaeth, aeth Martínez yn feudwy bron, a threuliodd weddill ei oes ar ei ystâd La Lira, ger Atocha, nes iddo farw o'r diciâu yn 40 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Sbaeneg) "Luis A. Martínez", Enciclopedia del Ecuador. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2020.