Llên Ecwador
Prif lenor Ecwador yn ystod y cyfnod trefedigaethol oedd Eugenio Espejo (1747–95), a oedd hefyd yn feddyg, cyfreithiwr, ac ymgyrchydd dros annibyniaeth. Fe'i ystyrir yn arloeswr newyddiaduraeth yn Ecwador ac yn ddychanwr ac ysgrifwr testunau dadleuol o fri. Un o'r rhyddieithwyr gwychaf yn holl lên America Ladin yn y 19g oedd Juan Montalvo (1832–89), sydd yn nodedig am ei erthyglau a phamffledi rhyddfrydol tanbaid. Gelwir San Juan de Ambato, yng nghanolbarth Ecwador, yn ddinas y tri Juan (La Tierra de los Tres Juanes) am iddi genhedlu Montalvo; Juan León Mera (1832–94), awdur geiriau'r anthem genedlaethol "¡Salve, Oh Patria!" a'r nofel Indianista Cumandá (1879); a'r gwleidydd a newyddiadurwr o ryddfrydwr Juan Benigno Vela (1843–1920). Cyflwynwyd realaeth i lên Ecwador gan Luis A. Martínez (1869–1909) gyda'i nofel A la Costa (1904).
Math o gyfryngau | sub-set of literature |
---|---|
Rhan o | Diwylliant Ecwador |
Gwladwriaeth | Ecwador |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prif gyfraniad Ecwador at y mudiad indigenismo yn hanner cyntaf yr 20g oedd y nofel Huasipungo (1934) gan Jorge Icaza (1906–78), sydd yn ymwneud â brwydr y bobloedd frodorol yn erbyn y tirfeddianwyr yn yr Andes. Yn y 1930au a'r 1940au daeth criw o lenorion ifainc o'r enw Grŵp Guayaquil i'r amlwg. Bu'r pump awdur hwn – Joaquín Gallegos Lara (1909–47), Enrique Gil Gilbert (1912–73), Demetrio Aguilera Malta (1909–81), José de la Cuadra (1903–41), ac Alfredo Pareja Diezcanseco (1908–93) – yn ysgrifennu am fywydau'r montuvio (y bobl o dras gymysg frodorol, Affricanaidd, ac Ewropeaidd) o ranbarth yr arfordir, a hynny gydag agweddau o realaeth gymdeithasol. Un arall o'r cyfnod hwn oedd y nofelydd, bardd, ac awdur straeon byrion Horacio Hidrovo Velásquez (1902–62).
Mae sawl bardd o nod yn hanu o ddinas Cuenca, gan gynnwys Jorge Carrera Andrade (1903–78) a César Dávila Andrade (1918–67).