Guayaquil
Dinas fwyaf a phrif porthladd Ecwador yw Guayaquil, yn llawn Santiago de Guayaquil, a leolir ar lannau gorllewinol Afon Guayas, 72 km o aber yr afon, yn Nhalaith Guayas. Llifa'r afon i Gwlff Guayaquil yn y Cefnfor Tawel. Saif y ddinas rhyw 2° i dde'r cyhydedd. Yn 2010 roedd ganddi boblogaeth o 2,278,691.[1]
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, y ddinas fwyaf ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,723,665 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Canción al Nueve de Octubre ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Aquiles Alvarez ![]() |
Cylchfa amser | UTC−05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Cali, Houston, Punta del Este, Paita, Concepción, Santiago de Chile, Shanghai, Haifa, Barranquilla, Maracaibo ![]() |
Nawddsant | Iago fab Sebedeus ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Guayaquil ![]() |
Gwlad | Ecwador ![]() |
Arwynebedd | 344 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr | 4 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Guayas ![]() |
Cyfesurynnau | 2.19°S 79.8875°W ![]() |
Cod post | 090101 - 090158 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Guayaquil ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Aquiles Alvarez ![]() |
![]() | |
Ymhlith yr enwogion o Guayaquil mae awduron Grŵp Guayaquil (Joaquín Gallegos Lara, Enrique Gil Gilbert, Demetrio Aguilera Malta, José de la Cuadra, ac Alfredo Pareja Diezcanseco), yr arlunydd Araceli Gilbert, a'r Arlywydd Guillermo Lasso.
HanesGolygu
Sefydlwyd gwladfa Sbaenaidd yn y 1530au ger aber Afon Babahoyo, ychydig i'r dwyrain o leoliad presennol y ddinas, gan Sebastián de Belalcázar, is-gapten i'r concwistador Francisco Pizarro. Dinistriwyd y wladfa ddwywaith gan frodorion yr ardal cyn i'r fforiwr Sbaenaidd Francisco de Orellana sefydlu Santiago de Guayaquil ar ei safle bresennol ym 1537. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd ar 25 Gorffennaf, Gŵyl Sant Iago, a'i henwyd ar ôl y sant hwnnw a phenadur brodorol lleol o'r enw Guaya a'i wraig Quila.[1] Yn ystod yr oes drefedigaethol, pan oedd Ecwador yn rhan o Raglywiaeth Granada Newydd, ymosodwyd ar y ddinas yn fynych gan fycaniriaid. Ym 1822 bu cynhadledd Simón Bolívar a José de San Martín yn Guayaquil, ac yn sgil y cyfarfod enwog hwnnw cymerodd Bolívar yr awennau yn Chwyldro Periw. Cafwyd difrod mawr i'r ddinas o ganlyniad i ddaeargryn ym 1942.
Daearyddiaeth ac hinsawddGolygu
Dinas isel yw Guayaquil a chanddi hinsawdd drofannol, yn dwym a llaith. Yn hanesyddol cafodd ei hystyried yn lle heintus, ond ers 1920 mae datblygiadau peirianyddol a glanwaith gan y llywodraeth wedi gwella iechyd y ddinas.
EconomiGolygu
Guayaquil yw prif porthladd Ecwador yn ogystal â'i chanolfan fasnachol fewnol fwyaf, ac felly'n hollbwysig i economi'r wlad. Ym 1979 agorwyd yr allborthladd newydd Puerto Marítimo rhyw 10 km yn is ar Afon Guayas na ffiniau'r ddinas ei hun. Dyma'r derfynfa i fasnach ryngwladol Guayaquil, a chludir rhyw 90% o fewnforion Ecwador a 50% o'i hallforion drwy gyfrwng y borthladd hon. Mae diwydiannau cynradd ac eilradd y ddinas a'i chyrion yn hynod o amrywiaethol, gan gynnwys gweithdai peiriannau, purfeydd siwgr, tanerdai ar gyfer nwyddau lledr, ffowndrïau haearn, purfeydd olew, melinau llifio, a ffatrïoedd tecstilau, sment, cyffuriau meddyginiaethol, a nwyddau traul bychain. Ymhlith y brif allforion yw'r bananas, coffi, a ffa cacao a dyfir ym masn Afon Guayas i'r gogledd. Un o'r diwydiannau ar ei dyfiant yw ffermio berdys.
O ganlyniad i ddatblygiad diwydiannol Guayaquil, ymfudodd niferoedd mawr o weithwyr o gefn gwlad i'r ddinas, gan greu nifer o slymiau.
Adeiladau a mannau nodedigGolygu
Codwyd eglwys hynaf Guayaquil, Santo Domingo, ym 1548. Lleolir sawl prifysgol yn Guayaquil, gan gynnwys y brifysgol gyhoeddus (sefydlwyd 1883) a'r brifysgol Gatholig (sefydlwyd 1962).
CludiantGolygu
Cysylltir ffyrdd Guayaquil i'r Ffordd Ban-Americanaidd. Maes Awyr Rhyngwladol José Joaquín de Olmedo yn Guayaquil yw ail faes awyr prysuraf Ecwador. Ni chysylltir Guayaquil â'r rheilffordd i Quito bellach, wedi i stormydd El Niño ddifrodi'r rheilffordd ym 1997–98.
Gweler hefydGolygu
- Cnocell Guayaquil, aderyn a enwir ar ôl y ddinas
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Guayaquil. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2021.