Mae Luis David Palacios (ganwyd 1983 yn Sinaloa, Mecsico) yn fardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, cerddor a golygydd Mecsicanaidd sydd yn arbenigo yn astudiaethau cerddorol.[1]

Luis Palacios
Geni Luis David Palacios
1983
Los Mochis, Sinaloa, Mecsico
Galwedigaeth Bardd, Cerddor, Ysgrifennwr, Podledwr
Cenedligrwydd Mecsicanwr
Gwaith nodedig Sigo siendo Miles Davis

Mae wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys prif wobr Mecsico am farddoniaeth - Premio Nacional de Poesía Raúl Rincón Meza yn 2019 am ei lyfr Sigo siendo Miles Davis (Dal i ddilyn Miles Davis).[2]

Mae hefyd wedi ennill y wobr Juegos Florales Nacionales Universitarios 2015 am ei lyfr Un árbol donde el sueño (Coeden ble mae’n cysgu).[3]

Mae ei waith wedi’i gyfieithu i Gymraeg, Saesneg, Rwmaneg, Portwgeeg ac Eidaleg ac mae wedi perfformio ei farddoniaeth mewn nifer fawr o wledydd yn cynnwys Lloegr, Colombia, Ecuador a Nicaragua. Yn 2017 ymwelodd â Chymru i gymryd rhan yng Ngŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru.

Mae hefyd yn cyflwyno podlediad La historia hablada del jazz am hanes cerddoriaeth Jazz.[4]

David Palacios, yn darllen barddoniaeth, Pier Bangor, 2017

Llyfryddiaeth golygu

  • Entrenamiento rítmico y auditivo 1. Palacios, Luis David, Rhythmus Ediciones, Mecsico, 2018
  • Armonía contemporánea. La música tonal. Palacios, Luis David, Rhythmus Ediciones, Mecsico, 2017
  • Un árbol donde el sueño. Palacios, Luis David, Valparaíso-Mexico Ediciones, Mecsico, 2016
  • Armonía contemporánea. Volumen 3, Palacios, Luis David, Fermatta publicaciones, Mecsico, 2010
  • Armonía contemporánea. Volumen 4, Palacios, Luis David, Fermatta publicaciones, Mecsico, 2010
  • Armonía contemporánea. Volumen 1, Palacios, Luis David, Fermatta publicaciones, Mecsico, 2009
  • Armonía contemporánea. Volumen 2, Palacios, Luis David, Fermatta publicaciones, Mecsico, 2009

Ffynonellau golygu

  1. https://www.lit-across-frontiers.org/profiles/luis-david-palacios
  2. Gana Luis David Palacios Premio Nacional de Poesía Raúl Rincón Meza. Sigo siendo Miles Davis. El Imparcial. Consultado 18 Rhagfyr 2019.
  3. https://miradamalva.blogspot.com/2017/02/poemas-de-luis-david-palacios.html
  4. https://rhythmusediciones.com/podcast-la-historia-hablada-del-jazz