Un o'r 88 cytser seryddol yw Lyra, neu'r Delyn, cytser eithaf bach yn y rhan ogleddol o'r wybren. Vega yw'r seren ddisgleiriaf.[1]

Cytser Lyra yn dangos sêr sydd yn weladwy i'r llygad noeth
Llun o'r sêr mwyaf disglair yng nghytser Lyra, gyda Vega ar ben y ddelwedd

Mae Lyra yn gytser clasurol gafodd ei gynnwys ar restr 48 cytser yr hen athronydd Groeg Ptolemi. Ym mytholeg glasurol roedd Lyra yn delyn a ganwyd gan Orpheus.[2]

Mae Lyra'n un o'r 88 cytser swyddogol mae'r Undeb Seryddol Rhyngwladol yn eu cydnabod, a Lyr yw'r talfyriad swyddogol yr Undeb. Lyrae yw'r ffurf Lladin genidol y cytser sy'n cael ei ddefnyddio gyda llythyren Roeg i greu enwau rhai sêr yn ôl cyfundrefn enwi yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer.[1]

I'r llygad noeth, mae'r cytser yn cael ei ddominyddu gan Vega, neu Alffa Lyrae (α Lyr), un o'r sêr disgleiriaf yn yr holl wybren. Gyda dosbarth spectrol o A0V, mae lliw gwyn neu las-gwyn gan Vega., gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 0.03.[3][4][5]

Mae Beta Lyrae (β Lyr), hefyd Sheliak, yn seren ddeuol gyda'r ddwy seren mor agos mae nwy yn trosglwyddo o un i'r llall. Seren luosg yw Epsilon Lyrae (ε Lyr), gyda dau gwrthrych i'w weld trwy delesgop bach amatur. Ond mae telesgopau ychydig mwy yn dangos bod y ddau eu hunain yn ddeol.[1][5]

Lleolir Messier 57, neu Nifwyl y Fodrwy, yn Lyra, nifwl planedol adnabyddus a grewyd gan nwy sy wedi'i chwythu oddi wrth hen seren esblygedig.[1]

Mae'r clwstwr globylog Messier 56 i'w weld yn Lyra.[1]

Nifwl planedol Messier 57, neu Nifwl y Fodrwy
Messier 56, clwstwr globylog yn Lyra

Ffynonellau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook (yn Saesneg). Efrog Newydd: Dover Publications, Inc., tud. 1131–1178. ISBN 0-486-23568-8 (Cyfrol 2.)
  2. Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings (yn Saesneg). Efrog Newydd: G. E. Stechert, tud. 280–284. URL
  3. Hoffleit, Dorrit; Jaschek, Carlos (1982). The Bright Star Catalog. New Haven, Connecticut: Yale University Observatory. (4ydd argraffiad) (HR 7001) (Yn Saesneg.)
  4.  Cronfa Ddata SIMBAD. Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Adalwyd ar 18 Mawrth 2017. (Yn Saesneg.) Chwiliad am Vega yn adnodd Simbad.
  5. 5.0 5.1  IAU Catalog of Star Names (2016). Adalwyd ar 23 Ebrill 2017. (Catalog swyddogol enwau traddodiadol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.