Dinas yn ne-orllewin canolbarth Tiwnisia yw Métlaoui (Arabeg: المتلوي) sy'n gorwedd rhwng dinasoedd Gafsa a Tozeur yn nhalaith Gafsa. Mae'n ganolfan mwyngloddio ffosffad gyda phoblogaeth o 37,099 (2004).[1]

Métlaoui
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGafsa Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau34.3194°N 8.4014°E Edit this on Wikidata
Cod post2130 Edit this on Wikidata
Map

Darganfuwyd ffosffad yn ardal Djebel Selja ar ddiwedd y 19g. Cludir y ffosffad o Métlaoui i ddinas Sfax, 250 km i'r dwyrain ar lan y Môr Canoldir, i'w brosesu a'i allforio.

Ceir amgueddfa hanes naturiol yn y ddinas sy'n cynnwys ffosilau lleol. Mae'r Lézard rouge, cyn drên gwaith mwyn sydd heddiw'n atyniad twristaidd, yn cychwyn o'r ddinas trwy geunentydd Selja.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-01-06.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.