Tozeur
Mae Tozeur (Arabeg: توزر) yn ddinas a gwerddon yng ngorllewin canolbarth Tiwnisia. Lleolir y ddinas i'r gorllewin o Chott el-Djerid, rhwng y chott hwnnw a Chott el-Gharsa. Mae'n brifddinas Talaith Tozeur.
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 37,365 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tozeur |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 33.9197°N 8.1336°E |
Cod post | 2200 |
Gyda rhai cannoedd o filoedd o balmwydd, mae Tozeur yn werddon fawr a ffrwythlon gyda'r ddinas ei hun yn ei chanol. Allforio'r dêts sy'n tyfu ar y palmwydd sy'n cyfrif am enwogrwydd Tozeur. Yn y gorffennol bu Tozeur yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach dros y Sahara, gan gysylltu gorllewin Affrica ag arfordir Môr y Canoldir; arferid teithio mewn carafanau mawr dros yr anialwch. Hen enw'r ddinas oedd Tusuros, a bu trefedigaeth Rufeinig yma yn y gorffennol.
Ym medina (hen ddinas) Tozeur, ceir nifer o enghreifftiau o bensaernïaeth draddodiadol a siopau crefftwyr. Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi ond mae'n waith tymhorol ac fel arfer nid yw twristiaid yn aros yno ond yn hytrach yn ymweld am y diwrnod o ganolfannau gwyliau fel Djerba ar yr arfordir. Mewn canlyniad i hyn a ffactorau economaidd eraill, mae diweithdra yn broblem fawr yn Tozeur.