Môl (uned)

(Ailgyfeiriad o Môl)

Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r môl (symbol: mol), a ddefnyddir i fesur swmp y deunydd a ddefnyddir mewn arbrawf. Fe'i cyfieithwyd yn 1897 o'r gair Almaeneg "Molekulärgewicht" sy'n tarddu o'r gair "moleciwl". Y cemegydd Wilhelm Ostwald a fathodd y term yn gyntaf yn yr Almaeneg, ond roedd y syniad o uned safonol i fesur hyn-a-hyn o ddeunydd wedi cael ei ddefnyddio am o leiaf canrif cyn hynny.[1] Mae un môl o unrhyw un sylwedd yn cynnwys yr un nifer (rhif Avogadro) o foleciwlau felly mae'r môl yn uned ddefnyddiol wrth wneud mesuriadau cemegol cymhleth.

Môl
Enghraifft o'r canlynolunedau sylfaenol SI, uned maint o sylwedd, uned sy'n deillio o UCUM, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae un môl o unrhyw elfen, moleciwl, cyfansoddyn a.y.y.b yn pwyso'r un pwysau (mewn gramau) â'r cyfanswm o'r rhifau más o bob atom sydd yn y rhywogaeth. Er enghraifft, mae un môl o sodiwm (Na) yn pwyso 23 gram ac un môl o ddŵr (H2O) yn pwyso 18 gram (2 x 1 am yr atomau hydrogen ac 16 am yr atom ocsigen).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Wilhelm Ostwald (1893) Hand- und Hilfsbuch zur ausführung physiko-chemischer Messungen. Leipzig (tud 119)