Gwlff California

(Ailgyfeiriad o Môr Cortés)

Bae mawr yn y Cefnfor Tawel gel arfordir gorllewinol Mecsico yw Gwlff California,[1] a adwaenir hefyd fel Môr Cortés. Saif rhwng penrhyn Baja California a'r tir mawr.

Gwlff California
Mathgwlff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorth Pacific Ocean, Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
GwladMecsico Edit this on Wikidata
Arwynebedd160,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28°N 112°W Edit this on Wikidata
Hyd1,126 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Yr Ewropead cyntaf i ddarganfod y Gwlff oedd Francisco de Ulloa yn 1539. Credai ei fod wedi darganfod ffordd i hwylio o'r Cefnfor Tawel i Gefnfor Iwerydd, ond dangosodd Melchior Díaz yn 1540 nad oedd hyn yn wir.

Mae afon Colorado yn llifo i mewn i'r Gwlff. Un o brif atyniadau'r gwlff yw'r morfilod llwyd, sy'n dod yma i roi genedigaeth i'w lloi. Dynodwyd Ynysoedd a gwarchodfeydd Gwlff California yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 70.