Ma' Ifan 'Ma
Rhaglen gomedi ar S4C oedd Ma' Ifan 'Ma yn dangos doniau y digrifwr Ifan Gruffydd. Roedd y sioe yn cynnwys sgetsus, caneuon a chymeriadau Ifan ynghyd a'i westeion. Darlledwyd 10 cyfres o'r sioe rhwng 1986 a 1996. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Teledu'r Tir Glas (Tonfedd yn ddiweddarach).
Ma' Ifan 'Ma | |
---|---|
Genre | Comedi/Adloniant |
Cyflwynwyd gan | Ifan Gruffydd |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 10 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30-45 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Teledu'r Tir Glas |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 1986 – 1996 |
Roedd y gyfres yn cynnwys perfformwyr rheolaidd fel John Pierce Jones, Gillian Elisa a Gwyn Elfyn.