Gillian Elisa

actores a aned yn 1953

Actores, digrifwraig a chantores o Gymraes yw Gillian Elisa (ganwyd 10 Awst 1953). Daeth yn adnabyddus am chwarae Sabrina yn Pobol y Cwm ac am ei chymeriadau comedi.

Gillian Elisa
Ganwyd10 Awst 1953 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr, canwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Gillian Elizabeth Thomas yng Nghaerfyrddin a magwyd yn Llanbedr Pont Steffan. Mynychodd Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan a Choleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.[1]

Yn ferch ifanc dangosodd ddiddordeb mewn diddanu eraill, o flaen ei theulu ac mewn Eisteddfodau lleol. Yn y chweched dosbarth cyd ysgrifennodd sioe gerdd Yr Enfys a'i phrofiad cyntaf ym myd actio oedd chwarae rhan Poli Gardis mewn cynhyrchiad cynnar o Dan y Wenallt. Yn y 1970au roedd hefyd yn aelod o'r grŵp roc, Graffia gan ennill ei lle fel prif gantores y band.

Wedi cwblhau ei chwrs coleg, cafodd cynnig y brif ran yn Nrama Gomisiwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974, yn chwarae Nimue yn Dewin Y Daran. Yn Hydref 1974, ymunodd â chast y gyfres ddrama newydd Pobol y Cwm ar BBC Cymru, yn chwarae'r cymeriad Sabrina Harries. Hi oedd aelod ieuengaf y cast ac fe barhaodd yn y rhan am ddeng mlynedd. Yn 1975 chwaraeodd ran Branwen yn yr opera roc Melltith ar y Nyth.[2]

Ers hynny cafodd rhannau mewn sawl cyfres deledu ar S4C, gan gynnwys Dinas, Minafon a Yr Heliwr, Glan Hafren, Iechyd Da. Bu hefyd yn chwarae cymeriadau mewn rhaglenni comedi Cymraeg fel Ma 'Ifan 'Ma ac Eric. Yn y Saesneg, cafodd rhannau amlwg mewn cyfresi megis Mortimer's Law, Forever Green, A Mind to Kill a Belonging.

Mae hefyd yn adnabyddus am ei pherfformiadau comedi ar raglenni adloniant fel Noson Lawen, ac yn arbennig am ei chymeriad unigryw 'Mrs OTT'. Yn 2004 perfformiodd y cymeriad yn rhan o sioe un-fenyw yng Ngŵyl Caeredin.[3]

Ers 2011 bu'n dirprwyo ar gyfer rhan 'Grandma' yn sioe gerdd Billy Elliot yn West End Llundain ac yn Ionawr 2015 cymerodd y brif ran wedi i Ann Emery ymddeol o'r sioe.[4]

Fel cantores, mae wedi rhyddhau sawl albwm yn ogystal â chyfrannu at recordiadau eraill.

Disgograffi

golygu
  • Rhywbeth yn y Glas
  • Haul ar Nos Hir (Sain)
  • Lawr y Lein, Gillian Elisa a'i Ffrindiau, Mehefin 2006 (Sain)

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Bywgraffiad Gillian Elisa. Sain.
  2.  Gillian Elisa - Bywgraffiad. Gillian Elisa. Adalwyd ar 29 Mehefin 2016.
  3. Gillian Elisa'n Cofio cymeriadau ei gorffennol. , Daily Post, 13 Chwefror 2010. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2016.
  4. (Saesneg) Theo Bosanquet (7 Ionawr 2015). Gillian Elisa takes over from Ann Emery as Grandma in Billy Elliot. What's On Stage.

Dolenni Allanol

golygu