Ifan Gruffydd (digrifwr)

Digrifwr, actor a ffarmwr o Gymro

Digrifwr a ffarmwr yw Ifan Gruffydd, neu Ifan Tregaron (ganwyd 20 Awst 1951). Mae'n adnabyddus am lywio nosweithiau adloniant gyda'r Ffermwyr Ifanc a Noson Lawen ar deledu, ac am ei gymeriad diniwed 'Idwal'.

Ifan Gruffydd
Ganwyd20 Awst 1951 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr, actor teledu, ffermwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Ifan Gruffydd yn ysbyty Aberystwyth a fe'i magwyd ar fferm Cefn 'Resgair Fawr ger Tregaron yng Ngheredigion. Mae'n rhannu ei amser rhwng y gwaith ffermio gyda'i waith fel diddanwr mewn cyngherddau byw ac ar y teledu. Mae'n briod gyda Dilys ac yn byw ar fferm 'Y Border Bach' ar gyrion Tregaron.

Fe berfformiodd gyntaf gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc a chymerodd ran ym mhantomeim Theatr Felinfach, lle cyfarfu Euros Lewis a ddaeth yn ddiweddarach yn gyd-awdur ar ei waith teledu.

Gyrfa golygu

Yn 1984, cafodd wahoddiad gan gwmni cynhyrchu Teledu'r Tir Glas i ymddangos ar eu rhaglen Noson Lawen ac fe ddatblygodd ei yrfa ar deledu a radio o hynny ymlaen.

Bu'n ysgrifennu a pherfformio mewn rhaglenni comedi ar S4C fel Nyth Cacwn, Y Ferch Drws Nesa a rhaglen ei hun Ma' Ifan 'Ma. Ar BBC Radio Cymru bu'n cyfrannu i raglenni fel 'Pwlffacan a Dros Ben Llestri.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu