Duwies Geltaidd a addolid yn Iwerddon oedd Macha yn wreiddiol. Cysylltir hi â rhyfel, ceffylau, sofraniaeth a safleoedd Armagh ac Emain Macha yn Swydd Armagh, sy'n dwyn ei henw. Gall fod yn gysylltiedig a'r dduwies Epona yn nhraddodiad Gâl a Rhiannon yng Nghymru.

"Macha yn melltithio gŵyr Wlster", llun gan Stephen Reid yn Eleanor Hull, The Boys' Cuchulain (1904)

Ceir nifer o gymeriadau yn dwyn yr enw Macha ym mytholeg Iwerddon; credir ei bod i gyd yn deillio o'r dduwies. Yn y Lebor Gabála Érenn mae cyfeiriad at Macha fel un o ferched Partholón. Ceir cofnod hefyd am Macha gwraig Nemed, a Macha, merch Ernmas, un o'r Tuatha Dé Danann, sy'n chwaer i'r Morrígan a'r Badb.

Yn ôl traddodiad o'r Canol Oesoedd, Macha Mong Ruad ("Macha a'r Mwng Coch") oedd yr unig frenhines yn rhestr Uchel Frenhinoedd Iwerddon.