Madagasgar

gwlad ac ynys
(Ailgyfeiriad oddi wrth Madagascar)

Ynys a chenedl yng Nghefnfor India, oddi ar arfordir dwyrain Affrica, yw Gweriniaeth Madagasgar. Mae'r genedl yn cynnwys ynys Madagascar (pedwaredd ynys fwyaf y byd) a nifer o ynysoedd llai cyfagos. Mae Madagascar yn adnabyddus am ei bio-amrywiaeth, gyda 90 y cant o'i bywyd gwyllt yn unigryw i'r ynys. Mae'r ecosystemau amrywiol a bywyd gwyllt unigryw dan fygythiad o ganlyniad i dwf ym mhoblogaeth yr ynys a bygythiadau amgylcheddol eraill.

Madagasgar
Satellite image of Madagascar in September 2003.jpg
Seal of Madagascar.svg
Flag of Madagascar.svg
Arwyddair Love, Land of Our Ancestors, Progress Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Mogadishu Edit this on Wikidata
Lb-Madagaskar.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Antananarivo Edit this on Wikidata
Poblogaeth 25,570,895 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1960 Edit this on Wikidata
Anthem Ry Tanindrazanay malala ô! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Christian Ntsay Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Malagasy, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Dwyrain Affrica Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Madagasgar Madagasgar
Arwynebedd 587,295 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Y Comoros, Ffrainc, Mosambic, Seychelles Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 20°S 47°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Parliament of Madagascar Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Madagascar Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Andry Rajoelina Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prime Minister of Madagascar Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Christian Ntsay Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 11,500 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 449 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian Malagasy ariary Edit this on Wikidata
Wrth gefn 1,600,175,022 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 4 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 4.409 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.519 Edit this on Wikidata
Madagasgar

Mae'r olion dynol cynharaf ar Fadagasgar yn dyddio yn ol i 2000CC. Pobl Austronesaidd oedd y cyntaf i ymsefydlu ar yr ynys gan deithio yno o Borneo rhwng 350CC a 550OC. Ymunodd ymfudwyr Bantu a hwy o gwmpas 1000OC wedi iddynt groesi o ddwyrain Affrica. Daeth grwpiau eraill i'r ynys dros amser a chyfrannu at ffurfio'r diwylliant Malagasy. Mae'r grwp ethnig Malagasy yn aml yn cael ei rannu'n ddeunaw is-grwp, a'r mwyaf o'r rhain yw'r Merina o'r ucheldiroedd canolog.

Tan ddiwedd y 18eg ganrif, roedd Madagasgar yn cael ei rheoli gan amrywiaeth o gynghreiriau gwleidyddol gymdeithasol. O ddechrau'r 19eg ganrif, roedd yr ynys yn cael ei rheoli fel teyrnas Madagasgar gan uchelwyr Merina. Dymchwelodd y frenhiniaeth yn 1897 pan ddaeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth drefedigaethol Ffrainc, a hynny hyd nes iddi gael ei hannibyniaeth ym 1960. Ers 1992, mae'r genedl wedi ei llywodraethu fel democratiaeth gyfansoddiadol o'i phrifddinas Antananarivo.

Mae Madagasgar yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Organisation Internationale de la Francophonie a Chymuned Ddatblygu Affrica Ddeheuol.

Yn ol y Cenhedloedd Unedig, mae Madagasgar yn perthyn i grwp o wledydd lleiaf datblygiedig y byd. Mae Malagaseg a Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol y wladwriaeth. Mae mwyafrif y boblogaeth yn arddel credoau traddodiadol, Cristnogaeth, neu gyfuniad o'r ddau. Prif elfennau strategaeth datblygu Madagasgar yw ecodwristiaeth, amaethyddiaeth, ynghyd a buddsoddiadau mewn addysg, iechyd a menter breifat.

Y cyntaf i sgwennu'r iaith frodorol Malagasi oedd y Parch David Jones a gafodd ei addysg yn Neuadd Lwyd, ger Aberaeron ac a fu farw yn Mawrisiws yn 1841.[1] Ymsefydlodd yn Antananarivo yn 1820 . Gyda David Griffiths, cyfieithodd y Beibl yn iaith y Malagasy, a chyda chynhorthwy David Johns, cyhoeddodd lyfr sillebu, catecism, ac emyniadur. Gorfu iddo ymadael, eithr parhaodd i ddefnyddio Mawrisiws fel gorsaf i efengyleiddio ohoni a bu farw yno ym mis Medi 1841.

CyfeiriadauGolygu

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fadagasgar. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.