Madagasgar

gwlad ac ynys

Ynys a chenedl yng Nghefnfor India, oddi ar arfordir dwyrain Affrica, yw Gweriniaeth Madagasgar. Mae'r genedl yn cynnwys ynys Madagascar (pedwaredd ynys fwyaf y byd) a nifer o ynysoedd llai cyfagos. Mae Madagascar yn adnabyddus am ei bio-amrywiaeth, gyda 90 y cant o'i bywyd gwyllt yn unigryw i'r ynys. Mae'r ecosystemau amrywiol a bywyd gwyllt unigryw dan fygythiad o ganlyniad i dwf ym mhoblogaeth yr ynys a bygythiadau amgylcheddol eraill.

Madagasgar
ArwyddairLove, Land of Our Ancestors, Progress Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad Edit this on Wikidata
Lb-Madagaskar.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Madagascar.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-মাদাগাস্কার.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-مدغشقر.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasAntananarivo Edit this on Wikidata
Poblogaeth25,570,895 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1960 Edit this on Wikidata
AnthemRy Tanindrazanay malala ô! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChristian Ntsay Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Indian/Antananarivo Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Malagasy, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Madagasgar Madagasgar
Arwynebedd587,295 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaY Comoros, Ffrainc, Mosambic, Seychelles Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20°S 47°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholParliament of Madagascar Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Madagascar Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAndry Rajoelina Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Madagascar Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChristian Ntsay Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$14,555 million, $14,955 million Edit this on Wikidata
ArianAriary Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.409 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.501 Edit this on Wikidata
Madagasgar

Mae'r olion dynol cynharaf ar Fadagasgar yn dyddio yn ôl i 2000CC. Pobl Austronesaidd oedd y cyntaf i ymsefydlu ar yr ynys gan deithio yno o Borneo rhwng 350CC a 550OC. Ymunodd ymfudwyr Bantu a hwy o gwmpas 1000OC wedi iddynt groesi o ddwyrain Affrica. Daeth grwpiau eraill i'r ynys dros amser a chyfrannu at ffurfio'r diwylliant Malagasy. Mae'r grwp ethnig Malagasy yn aml yn cael ei rannu'n ddeunaw is-grwp, a'r mwyaf o'r rhain yw'r Merina o'r ucheldiroedd canolog.

Tan ddiwedd y 18eg ganrif, roedd Madagasgar yn cael ei rheoli gan amrywiaeth o gynghreiriau gwleidyddol gymdeithasol. O ddechrau'r 19eg ganrif, roedd yr ynys yn cael ei rheoli fel teyrnas Madagasgar gan uchelwyr Merina. Dymchwelodd y frenhiniaeth yn 1897 pan ddaeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth drefedigaethol Ffrainc, a hynny hyd nes iddi gael ei hannibyniaeth ym 1960. Ers 1992, mae'r genedl wedi ei llywodraethu fel democratiaeth gyfansoddiadol o'i phrifddinas Antananarivo.

Mae Madagasgar yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Organisation Internationale de la Francophonie a Chymuned Ddatblygu Affrica Ddeheuol.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae Madagasgar yn perthyn i grwp o wledydd lleiaf datblygedig y byd. Mae Malagaseg a Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol y wladwriaeth. Mae mwyafrif y boblogaeth yn arddel credoau traddodiadol, Cristnogaeth, neu gyfuniad o'r ddau. Prif elfennau strategaeth datblygu Madagasgar yw ecodwristiaeth, amaethyddiaeth, ynghyd â buddsoddiadau mewn addysg, iechyd a menter breifat.

Y cyntaf i sgwennu'r iaith frodorol Malagasi oedd y Parch David Jones a gafodd ei addysg yn Neuadd Lwyd, ger Aberaeron ac a fu farw yn Mawrisiws yn 1841.[1] Ymsefydlodd yn Antananarivo yn 1820 . Gyda David Griffiths, cyfieithodd y Beibl yn iaith y Malagasy, a chyda chynhorthwy David Johns, cyhoeddodd lyfr sillebu, catecism, ac emyniadur. Gorfu iddo ymadael, eithr parhaodd i ddefnyddio Mawrisiws fel gorsaf i efengyleiddio ohoni a bu farw yno ym mis Medi 1841.

Cyfeiriadau golygu

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fadagasgar. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.