Nodwedd o system edifeirwch yr Eglwys Gatholig yw maddeueb[1] neu indwlgens.[2] Yn sacrament penyd mae'n rhaid i'r pechadur gyffesu ei bechodau a chael maddeuant gan yr Eglwys, ac yna derbyn cosb dymhorol i wneud yn iawn am bechu yn erbyn Duw. Trwy athrawiaeth Purdan, câi'r Eglwys ryddhau'r pechadur o'i gosb a gwaredu'r enaid rhag dyled y pechodau.

Cyfeiriadau golygu

  1.  maddeueb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  2.  indwlgens. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Ebrill 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.