Purdan
Purdan yw'r term a ddefnyddir mewn diwinyddiaeth Gristnogol am y broses o buro eneidiau'r marw, neu am y fangre lle mae hyn yn digwydd.
Cysylltir y syniad yn arbennig a'r Eglwys Gatholig, lle credir fod rhai eneidiau yn mynd yn syth i'r Nefoedd tra mae eraill yn gorfod mwynd trwy'r broses o buredigaeth yn gyntaf. Cred rhai enwadau Cristnogol eraill yn y posibilrwydd o ryw fath o broses o buro eneidiau ar ôl marwolaeth, a cheir syniad tebyg o fewn Iddewiaeth.
Datblygodd y syniad o'r Purdan fel lle arbennig yn y Canol Oesoedd yn bennaf, er nad yw hyn ynrhan o ddogma'r Eglwys Gatholig. Y darluniad enwocaf o'r Purdan yn llenyddiaeth y cyfnod yw'r adran Purgatorio yn y Divina Commedia gan Dante.