Mae Sera'n Wag
Drama fuddugol cystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 yw Mae Sera'n Wag o waith Manon Steffan Ros.
Awdur | Manon Steffan Ros |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Mae Sera'n Wag oedd y Ddrama Fer fuddugol yn yr Eisteddfod, gyda'r beirniaid T. James Jones a Geraint Lewis yn dyfarnu'r Fedal a'r wobr ariannol o £500 i Manon, gan nad oedd enillydd y Ddrama Hir yn deilwng o'r Fedal. Eisteddfod 2005 oedd y tro cyntaf i'r Fedal Ddrama gael ei chyflwyno, a rhoddwyd y rhyddid i'r beirniaid i wobrwyo'r ddrama 'orau o'r ddwy gystadleuaeth - y Ddrama Hir a'r Ddrama Fer. Gwynedd Huws Jones ddaeth i'r brig am y Ddrama Hir gyda'r ddrama Blanc'ed ond teimlai'r ddau feirniad nad oedd y ddrama'n haeddianol o'r Wobr Ariannol o £1,200 na'r Fedal, ond derbyniodd y nawdd o £3,000 i'w datblygu. Roedd 13 oedd wedi cystadlu am y Ddrama Hir ac 19 wedi cystadlu am y Ddrama Fer.[1]
Cymeriadau
golyguCynyrchiadau nodedig
golygu- Bu i Arwel Gruffydd gyfarwyddo cynhyrchiad o'r ddrama ar gyfer Sgript Cymru.[2]
- Darlledwyd addasiad o'r ddrama ar BBC Radio Cymru ar yr 8 Mawrth 2006 gyda Rhian Cadwaladr a Maldwyn John o dan gyfarwyddyd Aled Jones.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eryri. 2005.
- ↑ "Arwel Gruffydd yn gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru". Golwg360. 2011-03-01. Cyrchwyd 2024-08-24.
- ↑ "maes-e.com • Dangos pwnc - Drama fuddugol yr Eisteddfod ar Radio Cymru". maes-e.com. Cyrchwyd 2024-08-24.