Jim Parc Nest
Bardd, sgriptiwr, a darlithydd a chyn Archdderwydd Cymru yw Jim Parc Nest, neu T. James Jones (ganed 9 Ebrill 1934). Mae'n un o deulu Parc Nest.
Jim Parc Nest | |
---|---|
Yr Archdderwydd Jim Parc Nest, Eisteddfod Wrecsam 2011 | |
Ganwyd | 9 Ebrill 1934 Castellnewydd Emlyn |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Priod | Manon Rhys |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Thomas James Jones ym 1934, ac fe'i magwyd ar fferm Parc Nest ger Castell Newydd Emlyn.[1] Mynychodd Goleg Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin
Gyrfa
golyguBu’n weinidog gyda’r Annibynwyr ym Mynydd-bach Abertawe a’r Priordy Caerfyrddin cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Daeth yn aelod o adran sgriptiau’r BBC, yn bennaf fel golygydd cyfres sebon Pobol y Cwm.[2]
Prifardd
golyguEnillodd y Goron yn Eisteddfod Abergwaun 1986 ac yn Eisteddfod Casnewydd 1988 gyda'i bryddestau Llwch a Ffin. Yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007 enillodd y Gadair gyda'i awdl ar y testun Ffin. Mae felly wedi ennill y Goron a'r Gadair ar yr un testun. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Sir Conwy 2019 gyda awdl ar y testun Gorwelion.[3]
Roedd ei ffugenw yn 2007, Un o ddeuawd, yn adlais o ffrae a gododd pan ymgeisiodd am y Goron yn Eisteddfod Caernarfon 1979 o dan y ffugenw Ianws. Bryd hynny, bu'n rhaid iddo ildio'r Goron i Meirion Evans wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio â bardd arall ar y gwaith. Dywedodd yn 2007, fodd bynnag, nad oedd wedi bwriadu i'w ffugenw gyfeirio at helynt 1979.[4]
Yn 2009, cafodd ei ddewis i olynu Dic yr Hendre fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd gan wasanaethu tan 2013.
Bywyd personol
golyguMae'n frawd i'r Prifardd John Gwilym ac i'r Prifardd Aled Gwyn,[5] yn ogystal â bod yn ewythr i'r Prifardd Tudur Dylan. Mae'n briod â'r awdures y Prifardd a'r Prif Lenor Manon Rhys, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam 2011 ag yntau'n Archdderwydd. Mae ganddo ddau fab, llysfab, llysferch, a saith o wyrion.
Gwaith
golygu- Pan Rwyga'r Llen (1985)
- Pwy Bia'r Gân? (1991)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bois Parc Nest. S4C.
- ↑ Enillydd y Gadair. Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
- ↑ T James Jones yw enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 9 Awst 2019.
- ↑ Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod. BBC. Adalwyd ar 11 Awst, 2011.
- ↑ "Bois Parc Nest". BBC iPlayer. Cyrchwyd 10 Awst 2019.