Manon Steffan Ros
Awdures a dramodydd o Gymru yw Manon Steffan Ros (ganed 19 Ionawr 1983).[1]
Manon Steffan Ros | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ionawr 1983 Llanddeiniol |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, cerddor |
Tad | Steve Eaves |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguGaned Ros yn ferch ieuengaf y cerddor Steve Eaves,[2] a magwyd ym mhentref Rhiwlas ger Bangor.[3] Mynychodd Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.[1]
Enillodd y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion yn 2010, Fel Aderyn, a llwyddodd i gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda'i nofel Trwy’r Tonnau,[4] yn 2012 gyda Prism[5] ac yn 2017 enillwyd yn y categori uwchradd gyda Pluen[6] ac yn 2019 gyda Fi a Joe Allen.[7]
Mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.
Llyfryddiaeth
golygu- Trwy'r Darlun, Cyfres yr Onnen (Y Lolfa, 2008)
- Fel Aderyn (Y Lolfa, 2009)
- Trwy'r Tonnau, Cyfres yr Onnen (Y Lolfa, 2009)
- Bwystfilod a Bwganod, Cyfres yr Onnen (Y Lolfa, 2010)
- Prism, Cyfres yr Onnen (Y Lolfa, 2011)
- Hunllef, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2012)
- Blasu (Y Lolfa, 2012), wedi'i addasu i'r Saesneg fel The Seasoning (Honno Press, 2015)
- Inc, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2013)
- Baba Hyll (Y Lolfa, 2013)
- Dafydd a Dad (Y Lolfa, 2013)
- Llanw (Y Lolfa, 2014)
- Al, Cyfres Copa (Y Lolfa, 2014)
- Y Dyn Gwyrdd a'r Coed Teg, Cyfres Cloch (Gwasg Carreg Gwalch, 2014)
- Diffodd y Golau, Cyfres y Geiniog, wedi'i addasu i'r Saesneg fel Turn Out the Light, Money Matters (Canolfan Peniarth, 2015)
- Annwyl Mr Rowlands, Cyfres y Geiniog, wedi'i addasu i'r Saesneg fel Dear Mr Rowlands, Money Matters (Canolfan Peniarth, 2015)
- Two Faces (Y Lolfa, 2016), wedi'i addasu i'r Gymraeg gan Elin Meek fel Dau Wyneb (Canolfan Peniarth, 2018)
- Pluen (Y Lolfa, 2016)
- Golygon (Y Lolfa, 2017)
- Y Stelciwr, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2017)
- Sara Sero, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Alun Un, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Deio Dau, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Twm Tri, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Pedr Pedwar, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Poli Pump, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Cati Chwech, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Sami Saith, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Wali Wyth, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Dilys Deg, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Rhifau Coll, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Rhifo 'Nôl ac Ymlaen, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Dyblu, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Odrifau ac Eilrifau, Cyfres Cymeriadau Difyr (Canolfan Peniarth, 2018)
- Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2018) – Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018
- Antur y Castell, Cyfres Trio (Atebol, 2018)
- Antur y Mileniwm, Cyfres Trio (Atebol, 2018)
- Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa, 2019) wedi'i addasu i'r Saesneg fel Those People Next Door (Y Lolfa, 2021)
- Fi a Joe Allen (Y Lolfa, 2019)
- Llechi (Y Lolfa, 2020)
- Trio ac Antur yr Eisteddfod, Cyfres Trio (Atebol, 2020)
- Stryd y Bont, Cyfres Amdani (Y Lolfa, 2021)
- Mis yr Ŷd (CAA Cymru, 2021)
- Fi ac Aaron Ramsey (Y Lolfa, 2021)
- Y Soddgarŵ (Atebol, 2021)
- Powell (Y Lolfa, 2022)
Gwobrau ac anrhydeddau
golygu- 2005 – Y Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
- 2006 – Y Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006
- 2010 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd – Trwy’r Tonnau
- 2012 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd – Prism
- 2017 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd – Pluen
- 2018 – Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 – Llyfr Glas Nebo
- 2019 – Gwobr Tir na n-Og, Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector uwchradd – Fi a Joe Allen
- 2019 – Llyfr y Flwyddyn – Llyfr Glas Nebo
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Adnabod Awdur: Manon Steffan Ros (PDF). Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ BBC Music > Artists > Steve Eaves. BBC. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
- ↑ Nofelwyr Ifanc yn cipio Gwobrau Tir na n-Og 2010. Cyngor Llyfrau Cymru (3 Mehefin 2010). Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ Rhestr Awduron Cymru: ROS, MANON STEFFAN. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2011.
- ↑ Gwobrau Tir na n-Og. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ "Gwefan golwg, erthygl ar gwobr tir na n-Og 2017. Adalw ar 25/02/18".
- ↑ "Adnabod Awdur: Manon Steffan Ros". Cyngor Llyfrau Cymru. 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-23.