Maen Huail
Carreg yw Maen Huail sydd wedi'i lleoli yn Sgwar San Pedr yng nghanol Rhuthun, Sir Ddinbych, gogledd Cymru. Ceir plac wrth ei ymyl sy'n nodi mai yno, yn ôl traddodiad, y torrodd y Brenin Arthur ben Huail, brawd Gildas yr hanesydd, wrth iddynt gystadlu am law yr un fenyw.
Maen Huail | |
---|---|
Carreg 'Maen Huail' | |
Lleoliad | Canol tref Rhuthun. (OS Grid ref SJ123582) |
Rhanbarth | Gogledd Cymru |
Cyfesurynnau | 53°06′52″N 3°18′39″W / 53.1144°N 3.3108°WCyfesurynnau: 53°06′52″N 3°18′39″W / 53.1144°N 3.3108°W |
Math | carreg hynafol |
Hanes | |
Cyfnodau | yr Oesoedd Canol |
Nodiadau ar y safle | |
Cyflwr | Da |
Mynediad cyhoeddus | Ydy |
Heneb Cofrestredig | |
Cyfeirnod Rhif | DE030 |
Mae cofnod sy'n dyddio yn ôl i 1699 yn disgrifio'r garreg yng nghanol y ffordd, ond mae bellach yn erbyn wal adeilad banc Barclays a godwyd yn ystod yr 20g fel copi o Neuadd Exmewe.[1][2]
Tarddiad y chwedl yw Cronicl Elis Gruffydd a ysgrifennwyd tua 1550. Mae'n debygol i'r maen gael ei ddefnyddio dros y canrifoedd fel carreg farchnad neu sifig, ac i bregethu arno. Mae'r garreg galchfaen bellach wedi ei herydu gan y tywydd ac yn mesur 1.2 metr o hyd, a thua 0.6 metr o led ac uchder.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Maen Huail (ID NPRN306840). arComisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW)
- ↑ Maen Huail stone (ID PRN100868). ar 'SMR' ar gyfer Ymddiriedolaeth Archaeoleg Clwyd-Powys; Clwyd Powys Archaeological Trust (CPAT). Cadw SAM: DE030: Carreg Hynafol Maen Huail
- ↑ 'The Quarrel of Arthur and Huail, and the Death of Huail ap Caw', in The Chronicle of Elis Gruffudd. Celtic Literature Collective. Adalwyd 14 Ebrill 2016