Maen Ffawd

tywodfaen lle coronwyd brenhinoedd yr Alban
(Ailgyfeiriad o Maen Sgàin)

Mae'r Maen Ffawd[1] (neu Maen Scone neu'r Maen Coroni[2], yn Gaeleg clach-na-cinneamhain, clach Sgàin neu Lia(th) Fàil) yn glogfaen neu floc tywodfaen, a gadwyd yn hanesyddol yn Abaty Scone (sydd bellach wedi'i ddymchwel a'i ddisodli gan Balas Scone). Fe'i defnyddiwyd yn ystod yr Oesoedd Canol ar gyfer dathliadau coroni brenhinoedd yr Alban. Yn y 13eg ganrif, cymrodd Edward I o Loegr y Maen a'i symud i Abaty Westminster yn Llundain. Ym 1950 cafodd ei gymryd o Abaty Westminster a'i ddychwelyd i'r Alban, ond fe wnaeth yr awdurdodau ei ddarganfod a'i ddychwelyd ym 1952. Ym 1996, penderfynodd Llywodraeth Prydain ddychwelyd y Maen i’r Alban er mwyn ei chadw, felly heddiw mae’n cael ei harddangos yng Nghastell Caeredin ynghyd â Thlysau Coron yr Alban.

Maen Ffawd
Atgynhyrchiad o Garreg Scone.
Enghraifft o'r canlynolcarreg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.edinburghcastle.gov.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl chwedl, mae Maen Blarney yng Nghastell Blarney yn Iwerddon hefyd yn rhan o'r graig a ffurfiodd y Maen Ffawd yn wreiddiol.

Gweler hefyd golygu

  • Palas Sgon
  • Maen Blarney

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yr haul | Cyf. 1 rhif. 11 - Tachwedd 1885 | 1885 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-13. Yma coronwyd holl frenhinoedd Lloegr, o ddyddiau William y Gorchfygwr (1066) hyd at yn awr, a hynny er teyrnasiad Edward I, ar y "Maen Ffawd" (fatal stone) Scone, a ddygwyd gan y brenin ymladdgar hwnw o Scotland.
  2. "LLYTHYR LLUNDAIN.|1902-08-06|Y Tyst - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales. Cyrchwyd 2022-09-13.

Dolenni allanol golygu