Abaty Westminster
Eglwys fawr gyda phensaernïaeth Gothig ydy Eglwys Golegol San Pedr yn Westminster, sy'n fwy adnabyddus o dan yr enw Abaty Westminster (Westminster Abbey). Fe'i lleolir yn Westminster, Llundain, ychydig i'r gorllewin o Balas San Steffan. Dyma safle traddodiadol coroni a chladdu brenhinoedd Lloegr.
Math | cadeirlan Anglicanaidd, Royal Peculiar, atyniad twristaidd, abaty ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sant Pedr ![]() |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Palas San Steffan ac Abaty Westminster gan gynnwys Eglwys Santes Marged, Westminster ![]() |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4994°N 0.127367°W ![]() |
Cod OS | TQ3008279490 ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig, celf Gothig ![]() |
Perchnogaeth | English Heritage ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | Sant Pedr ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Anglicanaidd Westminster ![]() |
Cychwynnwyd ar y gwaith o godi'r Abaty presennol ym 1245 gan Harri III, brenin Lloegr a ddewisodd y safle gyda golwg ar fan i'w gladdu wedi ei farwolaeth.[1]
Ymhlith y rhai a gladdwyd neu a goffawyd yno y mae: Syr Winston Churchill, Oliver Cromwell, Charles Darwin, Charles Dickens, Benjamin Disraeli, Gabriel Goodman (o Ruthun), Georg Friedrich Händel, David Livingstone a William Shakespeare.
Ynghyd â Palas San Steffan ac Eglwys Santes Marged, Westminster, sy'n sefyll ar yr un safle o arwyddocâd hanesyddol a symbolaidd ger Afon Tafwys, mae'r Abaty ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1987.[2]
Seintwar Golygu
Yn 1482, wedi i Richard III, brenin Lloegr gipio coron Lloegr oddi wrth Edward V a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward, Elizabeth Woodville am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch Elisabeth o Efrog ac eraill o'i theulu, yn Abaty Westminster. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda Harri Tudur yn Llydaw, ac yn awyddus i'w cloi yn Nhŵr Llundain. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i mewn nag allan. Roedd mam Harri Tudur, Margaret Beaufort yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd y Lancastriad pybyr Lewis o Gaerleon, a heriodd farwolaeth sawl tro yn cludo negeseuon o'r naill at y llall, gan gyd-drefnu priodas Harri ac Elisabeth o Efrog. Mae'n debyg mai dyma pam y gwobrwywyd ef yn ariannol, wedi i Harri ladd Richard ym Mrwydr Bosworth.
Dolenni allanol Golygu
- Gwefan swyddogol
- Delweddau hanesyddol o Abaty Westminster Archifwyd 2014-01-07 yn y Peiriant Wayback.
- Westminster Abbey: A Peek Inside Archifwyd 2010-12-28 yn y Peiriant Wayback. – sioe sleidiau gan Life
- Keith Short – Sculptor Delweddau o gerfluniau carreg yn Abaty Westminster
- Abaty Westminster ar Twitter
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Gwefan Saesneg yr Abaty
- ↑ "Palace of Westminster and Westminster Abbey including Saint Margaret's Church". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.