Roedd Maer y Llys (Lladin: maior domus) yn deitl a swydd yn y Canol Oesoedd cynnar. Fe'i defnyddid yn arbennig yn nheyrnasoedd y Ffranciaid yn y 7fed a'r 8g.

Yn ystod y 7g daeth Maer y Llys i fod yn wir reolwr Austrasia, y rhan ogledd-ddwyreiniol o deyrnas y Ffranciaid yng nghyfnod y brenhinoedd Merofingiaid. Dim ond safle seremonïol oedd gan y brenin.

Yr enwocaf o Feiri'r Llys oedd Siarl Martel, a arweiniodd y Ffranciaid i fuddugoliaeth ym Mrwydr Tours. Wedi i Austrasia a Neustria gael eu huno yn un deyrnas, cipiodd Pepin III, Maer y Llys ers 747, y goron oddi wrth y llinach Merofingaidd. Trwy hyn sefydlodd linach y brenhinoedd Carolingaidd, a choronwyd ei fab Siarlymaen yn ymerawdwr yn 800.