Brwydr Tours
Brwydr a ymladdwyd rhwng Tours a Poitiers yn yr hyn sy'n awr yn Ffrainc ym mis Hydref 732 oedd Brwydr Tours, weithiau hefyd Brwydr Poitiers. Ymladdwyd y frwydr rhwng y Ffranciaid dan Siarl Martel a byddin Fwslimaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 10 Hydref 732, 732 |
Rhan o | Muslim conquests, Umayyad invasion of Gaul |
Lleoliad | Poitiers |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth fawr i'r Cristionogion, gyda Abdul Rahman ei hun ymhlith y lladdedigion. Mae nifer o haneswyr yn ystyried i'r frwydr yma fod yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Ewrop, ac y gallai Ewrop oll fod wedi dod yn rhan o'r byd Islamaidd onibai am fuddugoliaeth Martel.