Gwefan Gymraeg boblogaidd ar ffurf fforwm trafod oedd maes-e, a sefydlwyd gan Nic Dafis ar 18 Awst 2002. Gellir trafod yn Gymraeg bopeth dan haul, gan gynnwys cerddoriaeth, cyfrifiadureg, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, a materion cyfoes. Cafodd y wefan ei henwi ar ôl cân o'r un enw gan y band Datblygu. Gweinyddwyd y wefan gan Nic Dafis tan 31 Rhagfyr 2007 pan drosglwyddwyd hi i ddwylo Hedd Gwynfor ar 1 Ionawr 2008.

maes-e.com
URLmaes-e.com
Sloganheb y barnu, na'r cystadlu
Masnachol?hysbysebion
Math o wefanFforwm trafod
CofrestruDewisol
Ieithoedd ar gaelCymraeg
PerchennogHedd Gwynfor
Crëwyd ganNic Dafis
Lansiwyd ar18 Awst 2002
Statws cyfredolSegur

Ers 2017 mae'r wefan yn bodoli fel archif ond nid yw'n bosib i gofrestru cyfrifon newydd.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.