Maes Awyr Sifil Amman

Mae Maes Awyr Sifil Amman ( IATA:ADJ, ICAO:OJAM) sy'n cael ei alw'n gyffredinol Maes Awyr Rhyngwladol Marka, wedi'i leoli yn ardal Marka, ym mharth Dinesig Amman Fwyaf, Gwlad yr Iorddonen, rhyw 5 km i'r gogledd-ddwyrain o ganol dinas Amman.

Maes Awyr Sifil Amman
Mathmaes awyr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAmman Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAmman Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Uwch y môr2,555 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.9725°N 35.9914°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'n gwasanaethu fel prif faes awyr sifil Amman i deithwyr ar deithiau siartredig a theithiau preifat. Mae'n cael ei ddefnyddio yn ogystal fel canolfan addysg a hyfforddiant hedfan. Hwn oedd y prif faes awyr ar gyfer Gwlad yr Iorddonen hyd i Faes Awyr Rhyngwladol y Frenhines Alia agor ym 1983.

Hanes golygu

Sefydlwyd y maes awyr ym 1950 gan Awdurdodau'r DU fel maes awyr ar y cyd ar gyfer gwasanaethau sifil a milwrol .[1] Yn 2009, fe wnaeth Cwmni Maes Awyr Gwlad yr Iorddonen gymryd drosodd cyfrifoldeb gweithredol dros Faes Awyr Sifil Aman yn swyddogol. Mae'r cwmni hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad 6,000 km2 o amgylch Maes Awyr Rhyngwladol y Frenhines Alia. Erbyn hyn mae'n gwasanaethu fel maes awyr rhanbarthol sy'n gwasanaethu llwybrau domestig a rhyngwladol i wledydd agos, yn ogystal â theithiau VIP a theithiau siarter preifat. Mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr arbenigol rhyngwladol, mae'r cwmni wedi paratoi prif gynllun cynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Sifil Aman, sy'n cynnwys nifer o brosiectau cyfalaf. Dechreuodd y cwmni weithredu cam cyntaf y prif gynllun i ddatblygu'r cyfleusterau yn y Maes Awyr; yn 2012. Adnewyddwyd y Lolfa VIP gyda lefel newydd o wasanaethau i'w droi yn un o derfynellau VIP mwyaf eithriadol y rhanbarth. Yn 2013, cyflwynwyd y prosiect mynediad maes awyr newydd ac ym mis Hydref 2013, dechreuodd y gwaith ailsefydlu'r derfynell gyrhaeddiad ac ehangu'r siopau di-dreth yn y maes awyr, yn ogystal â nifer o brosiectau seilwaith ac ochr awyr eraill. Mae'r maes awyr yn gartref i gwmnïau hedfan fel Royal Wings, Jordan Aviation, Arab Wings, a Petra Airlines, ac mae'n weithredol 24 awr y dydd.

Cwmnïau hedfan a chyrchfannau golygu

Teithwyr golygu

Gweld ymholiadau Wicidata a chyfieithu.


Jordan Aviation - Teithiau Siarter i Aqaba, Baghdad, Dubai–International, Istanbul–Sabiha Gökçen, Najaf, Kuwait

Palestinian Airlines - Teithiau i l-Arish

Cargo golygu

Mae Cwmni Cargo Awyr Rhyngwladol Iorddonen wedi'i leoli yn Marka. Sefydlwyd y cwmni yn 2001, ac enillodd ei dystysgrif gweithredwr awyr yn 2005.[2] Mae'r cwmni'n gweithredu teithiau siarter cargo yn y Dwyrain Canol, Asia, Affrica ac Ewrop,[3] gan ddefnyddio dwy awyren, un Antonov An-12 a dau Ilyushin Il-76MF .[4]

Damweiniau golygu

  • Ar 9 Medi 1956, gwrthdarodd awyren Curtiss C-46A-45-CU, cofrestriad JY-ABV, i mewn i allt ger y maes awyr wrth geisio gwneud glaniad brys yn dilyn methiannau mecanyddol wrth ddringo. Aeth yr awyren ar dân goroesodd pawb ond un o'r teithiwr y ddamwain.
  • Ar 22 Ionawr 1959, cafodd Awyren Cwmni Hedfan yr Iorddonen rhif 601, cofrestriad Convair Convair CV-240-2 JY-ACB, ddamwain 2.8 milltir i'r gogledd orllewin o Wadi-es-Sir wrth fynd at y maes awyr mewn tywydd garw. Bu farw pob un o'r 5 aelod o'r criw a 6 o'r 11 teithiwr yn y ddamwain gan ei gwneud y ddamwain awyr ddamwain oedd penderfyniad y peilot i hedfan o dan yr isafswm uchder rhagnodedig i wneud cyswllt gweledol â'r ddaear mewn tywydd garw.
  • Ar 30 Mehefin 1973, ehedodd awyren Awyrofod Aeroflot 512, cofrestriad Tupolev 134A CCCP-65668, drosodd y rhedfa a tharo tŷ yn ystod y daith o'r maes awyr gan ladd 2 aelod o'r criw goroesodd 7 o bobl yn yr adeilad, y 5 aelod arall o'r criw a 78 o deithwyr y ddamwain. Penderfynwyd mai achos y ddamwain oedd penderfyniad y criw i ddarfod esgyniad yr awyren ar gyflymder o 265 km / h oherwydd bod y capten yn credu bod y cyflymder wedi gostwng oherwydd methiant un injan.
  • Ar 23 Medi 1977, trawodd Learjet 36A a weithredwyd gan Arab Wings, cofrestriad JY-AFC, y ddaear mewn safle gwrthdro ar dir caled tua 8 troedfedd i'r gogledd o'r llain tacsi cyfochrog oherwydd anghydbwysedd tanwydd yn ystod yr amser esgyn. Lladdwyd pob un o'r 4 ar y bwrdd.
  • Ar 1 Mai 2006, nogiodd injian a chwalodd Piper Pa-28-181 o Academi Awyr Brenhinol yr Iorddonen wrth geisio gwneud glaniad brys i redfa 06 pan gollodd injan yr awyren bŵer yn ystod y dringo cychwynnol. Bu farw'r ddau beilot a'u teithiwr o ganlyniad i'r ddamwain.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Amman-Marka International Airport". Jordan Airports Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Awst 2014. Cyrchwyd 13 Awst 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Jordan International Air Cargo". JIAC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-03. Cyrchwyd 13 Awst 2014.
  3. NetImpulses. "Jordan International Air Cargo- Reviews, Rate Quote". Shipping-international. Cyrchwyd 13 Awst 2014.[dolen marw]
  4. "A-Z Air Freighters Guide - Freighter Airlines A-Z Index". A-Z Group Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-13. Cyrchwyd 13 Awst 2014.