Magdalena Parys
Awdur o'r Almaen a Gwlad Pwyl yw Magdalena Parys (ganwyd 29 Mehefin 1971) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a chyfieithydd. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, gan gynnwys Magik (2014) a enillodd Wobr Llenyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2015.[1][2]
Magdalena Parys | |
---|---|
Ganwyd | Magdalena Lasocka 29 Mehefin 1971 Gdańsk |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd |
Swydd | prif olygydd |
Gwobr/au | Gwobr yr Undeb Ewropeaidd am Lenyddiaeth |
Gwefan | http://www.magdalenaparys.de/ |
Fe'i ganed yn Gdańsk, prif borthladd Gwlad Pwyl, ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Humboldt, Berlin.
Y llenor
golyguMae hi'n brif olygydd cylchgrawn llenyddol yr Almaen-Pwyleg, Squaws, ac yn trefnydd llawer o gystadlaethau llenyddol rhyngwladol a chyfarfodydd awduron. Ysgrifennodd ar gyfer Gazeta Wyborcza, Pogranicza, Kurier Szczeciński, Twoja Gazeta, Gwlad Pwyl ac mae'n gweithio gyda'r wefan zwierciadlo.pl.
Cyflwynodd farddoniaeth a rhyddiaith yng Ngŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Berlin (Internationalen Literaturfestival Berlin, Poesiefestival Berlin, Poesieschlamm, während der Nacht der Poesie), yn ystod Noson Barddoniaeth, ac yn WIR Frauen.
Mae wedi ymgymryd a nifer o gyfweliadau gydag Erika Steinbach a Tanja Dückers ac eraill.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr yr Undeb Ewropeaidd am Lenyddiaeth (2015) .
Llyfryddiaeth
golygu- Ich bin der, der angekommen ist. Anthologie, herausgegeben von Isabella Potrykus und Magdalena Parys Liskowski. IDEEDITION, Berlin 2004, ISBN 3-00-013614-2.
- Tunel. Świat Książki, Warszawa 2011, ISBN 978-83-7799-018-6.
- Budapester Shoes. In: Twoja Gazeta. (2011–2012)
- Magik (2014; Magician)
- Der Magier. freiraum-verlag, Greifswald 2018, ISBN 978-3-96275-001-5.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ European Union Prize for Literature Archifwyd 2015-06-16 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Magdalena Parys Wins the European Prize for Literature". Culture.pl. 16 Ebrill 2015. Cyrchwyd 19 Mehefin 2015.