Mae Magdalensberg (1,059 m) yn fynydd yn Kärnten yn Awstria, sydd hefyd yn safle archaeolegol pwysig. Ceir yma weddillion oppidum neu ddinas gaerog Geltaidd, ac mae cloddio archaeolegol wedi darganfod llawer o gelfi o'r cyfnod Celtaidd diweddar a'r cyfnod Rhufeinig cynnar. Darganfuwyd Forum, tai, baddondai ac amddiffynfeydd. Credir mai'r safle yma oedd Noreia, prifddinas teyrnas Noricum, a enwyd ar ôl y dduwies Noreia.

Cloddio archaeolegol yn Magdalensberg: Virunum I

Ar ben y mynydd mae allor o'r cyfnod paganaidd ac eglwys Santes Helena a Magdalena. Ceir y cofnod cyntaf am yr eglwys yn 1262 a chafodd ei hail-adeiladu yn 1462. O'r fan yma ar yr ail ddydd Gwener wedi'r Pasg y mae'r Vierbergelauf ("Taith y Pedwar Mynydd") yn cychwyn, taith o tua 50 km i Lorenziberg.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gernot Piccottini, Hermann Vetters: Führer durch die Ausgrabungen auf dem Magdalensberg. 5., erweiterte und veränderte Auflage. Verlag des Landesmuseums für Kärnten, Klagenfurt 1999, ISBN 3-900575-15-0.