Rhaglen iaith sydd wedi'i dylunio i roi dull o gyfathrebu i unigolion nad ydynt yn gallu cyfathrebu'n effeithlon ar lafar yw Makaton.[1][2] Mae'r rhaglen iaith Makaton wedi'i defnyddio gydag unigolion sydd a namau gwybyddol, awtistiaeth, syndrom Down, nam iaith penodol, nam amlsynhwyraidd a anhwylderau niwrolegol caffael sydd wedi effeithio yn negyddol ar y gallu i gyfathrebu, yn cynnwys cleifion stroc.[3]

Mae'r enw "Makaton" yn deillio o lythrennau cyntaf enwau y tri therapydd iaith a lleferydd a helpodd i lunio'r rhaglen yn y 1970au: yr ymchwilydd Margaret Walker, a Katharine Johnston a Tony Cornforth, cydweithwyr o'r Gymdeithas Frenhinol i Bobl Byddar.[4]

Mae Makaton yn nod masnach cofrestredig The Makaton Charity, a sefydlwyd yn 2007.[5] Cafodd y cais nod masnach gwreiddiol ar gyfer Makaton ei ffeilio yn y DG ar 28 Awst 1979, a'r cofrestriad ei gymeradwyo o'r dyddiad hwnnw o dan gofrestriad nod masnach y DG rhif 1119745.[6]

Yn 2004 cafodd Makaton ei gynnwys yn yr Oxford English Dictionary fel gair oedd yn cael defnydd cyffredin. Mae'r cofnod yn disgrifio Makaton fel rhaglen iaith sy'n integreiddio lleferydd, arwyddion llaw a symbolau graffigol, a ddatblygwyd i gynorthwyo pobl sy'n ei chael yn anodd iawn i gyfathrebu, yn arbennig pobl gydag anawsterau dysgu.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Beukelman, David R.; Mirenda, Pat. (2005). "Symbols and rate enhancement". Augmentative alternative communication : supporting children adults with complex communication need. Baltimore: Paul H. Brookes Pub. Co. tt. 65–67. ISBN 978-1-55766-684-0. OCLC 59817863.
  2. Grove, Nicola; Walker, Margaret (1990). "The Makaton Vocabulary: Using manual signs and graphic symbols to develop interpersonal communication". Augmentative and Alternative Communication 6 (1): 15–28. doi:10.1080/07434619012331275284.
  3. Prevost, Patricia A. Le (2009). "Using the Makaton Vocabulary in early language training with a Down's baby: a single case study". Journal of the British Institute of Mental Handicap (APEX) 11 (1): 28–29. doi:10.1111/j.1468-3156.1983.tb00091.x.
  4. Sheehy, K. & Duffy, H. "Attitudes to Makaton in the ages of integration and inclusion" (pdf). International Journal of Special Education, 24(2), pp. 91–102. Cyrchwyd 30 January 2014.
  5. "The Makaton Charity". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-19. Cyrchwyd 29 August 2013.
  6. "MAKATON - UK00001119745". Intellectual Property Office - By number results. Cyrchwyd 29 August 2013.
  7. "Oxford Index Search Results - oi". oxfordindex.oup.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-03-26.