Dinas yng ngorllewin canolbarth Tiwnisia yw Makthar (Arabeg: مَكْثَر), hefyd Maktar neu Mactar, sy'n gorwedd 900 metr i fyny ar lwyfandir ar ymyl ogleddol mynyddoedd Dorsal Tiwnisia yn nhalaith Siliana. Poblogaeth: 12,942 (2004).[1]

Makthar
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,942 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSiliana Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr900 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.85°N 9.2°E Edit this on Wikidata
Cod post6140 Edit this on Wikidata
Map

Fe'i lleolir ar groesffordd y priffyrdd GP4 a GP12, 150 km i'r de-orllewin o Diwnis a 70 km i'r de-orllewin o El Kef. Gorwedd Siliana, prifddinas y dalaith o'r un enw, 35 km i'r gogledd ar y briffordd GP4.

Mae Makthar yn adnabyddus yn bennaf am safle archaeolegol dinas hynafol Mactaris. Bu'r ddinas honno ym meddiant Massinissa, brenin Numidia ac arosodd yn nwylo'r Nwmidiaid tan ddechrau'r 1fed ganrif OC pan gafodd ei gipio gan yr Ymerodraeth Rufeinig. Parhaodd y ddinas, er yn llai, trwy gyfnodau rheolaeth y Fandaliaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd hyd yr 11g. Ceir amgueddfa fechan ar y safle.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-01-08.

Dolenni allanol golygu