Sulawesi
Mae Sulawesi (gynt Celebes) yn un o ynysoedd mwyaf Indonesia. Efallai fod yr enw yn dod o sula ('ynys') a besi ('haearn').
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 18,455,058 |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Sunda Fawr |
Sir | Indonesia |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 174,600 km² |
Uwch y môr | 985 metr, 1,929 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Banda Sea, Môr Celebes, Molucca Sea, Makassar Strait |
Cyfesurynnau | 2°S 121°E |
ID-SL | |
Mae nifer o grwpiau ethnig ar yr ynys; y Bugis yw'r mwyaf niferus. Cyrhaeddodd morwyr o Bortiwgal yn 1525, ac yn ddiweddarach daeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd cyn dod yn rhan o Indonesia. Gydag arwynebedd o 174,600 km², Sulawesi ydyw'r unfed ynys ar ddeg yn y byd o ran maint. Mae ynys Borneo i'r gorllewin, y Ffilipinau i'r gogledd, Maluku i'r dwyrain, a Flores a Timor i'r de. Rhennir yr ynys yn chwe thalaith: Gorontalo, Gorllewin Sulawesi, De Sulawesi, Canol Sulawesi, De-ddwyrain Sulawesi a Gogledd Sulawesi. Dim ond yn 2004 y crewyd Gorllewin Sulawesi, o ran o Dde Sulawesi. Makassar a Manado ydyw'r dinasoedd mwyaf.
Mae Llinell Wallace yn rhedeg trwy Sulawesi, felly mae bywyd gwyllt yr ynys yn cynnwys rhywogaethau Asiaidd ac Awstronesaidd, ond Awstronesaidd yn bennaf. Y warchodfa natur fwyaf yw Parc Cenedlaethol Lore Lindum sy'n 2,290 km². Roedd poblogaeth yr ynys yn 2000 yn 14,946,488, tua 7.25% o boblogaeth Indonesia. Islam yw'r grefydd fwyaf ar yr ynys, ond mae tua 19% yn Gristionogion, y rhan fwyaf yn Brotestaniaid. Yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig rhwng 1998 a 2001, bu ymladd rhwng Mwslimilaid a Christionogion, gyda dros fil o bobl yn cael eu lladd.