Beicwraig rasio a mynydd lawr allt Cymreig o Gaerffili ydy Manon Rose Carpenter (ganwyd 11 Mawrth 1993[1]).

Manon Carpenter
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnManon Rose Carpenter
Dyddiad geni (1993-03-11) 11 Mawrth 1993 (30 oed)
Manylion timau
DisgyblaethBeicio Mynydd
RôlReidiwr
Math seiclwrLawr Allt
Tîm(au) Proffesiynol
Madison Saracen Downhill Team
Prif gampau
Pencampwr Iau y Byd
Golygwyd ddiwethaf ar
20 Ionawr 2012

Cafodd ei hysbrydoli i gymryd rhan yn y chwaraeon gan ei thad, Jason, sy'n adeiladwr traciau BMX, ac sy hefyd yn ei hyfforddi. Mynychodd Carpenter Ysgol Gyfun St. Martin, Caerffili. Derbyniodd radd mewn gwyddoniaeth a Sbaeneg ym Manceinion.[2]

Yn 2011, enillodd Manon Carpenter Bencampwriaeth Iau Beicio Mynydd Lawr Allt y Byd, a chyfres Cwpan y Byd Becio Mynydd Lawr Allt yr UCI.

Ymddeolodd o rasio lawr allt yn 2017.

Palmarès golygu

2011
1af Pencampwriaeth Iau Beicio Mynydd Lawr Allt y Byd
1af Cyfres Cwpan y Byd Becio Mynydd Lawr Allt yr UCI

Cyfeiriadau golygu

  1.  Manon Carpenter Rider Profile. Madison. Adalwyd ar 4 Ionawr 2012.
  2.  Gavin Thomas (24 Hydref 2011). Downhill bike world champion Manon Carpenter's dilemma. BBC. Adalwyd ar 4 Ionawr 2012.

Dolenni allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.