Manouba
Mae Manouba neu La Manouba (Arabeg منوبة) yn dref yng ngogledd-orllewin Tiwnis (prifddinas Tiwnisia) a phrif dref y dalaith lywodraethol (gouvernorat) o'r un enw.
Math | municipality of Tunisia, Imada |
---|---|
Poblogaeth | 58,792 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manouba, delegation of La Manouba |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 36.8°N 10.1°E |
Creuwyd bwrdeistref La Manouba ar 23 Mehefin 1942. Heddiw mae'n un o fwrdeistrefi hynaf Tiwnis Fwyaf. Mae Manouba yn ardal dda ei fyd, gydag ysgolion a chyfleusterau eraill o safon uchel.
Daearyddiaeth
golyguYn y dwyrain mae Manouba yn ffinio â bwrdeistref Den Den, yn y gogledd â bwrdeistref Douar Hicher, yn y gorllewin â bwrdeistref Oued Ellil ac yn y de â dinas (municipalité) Tiwnis a Chamlas Medjerda-Cap Bon.
Enwogion
golyguGanwyd y gantores Latifa Arfaoui ym Manouba yn 1961 a chafodd ei haddysg gynradd yn ysgol Sidi Omar.
Dolen allanol
golygu- Gwefan swyddogol bwrdeistref Manouba Archifwyd 2010-04-16 yn y Peiriant Wayback