Rhanbarth ddinesig yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia yw Tiwnis Fwyaf. Yn ogystal â'r brifddinas Tiwnis mae'n cynnwys y maerdrefi cylchynol i'r gorllewin, ac ar lannau gogleddol a deheuol Llyn Tiwnis. Erbyn heddiw mae trefi arfordirol La Marsa a'r gyfres o drefi a phentrefi bach sy'n ffurfio stribyn o dir datblygedig ar lan orllewinol Gwlff Tiwnis - o Sidi Bou Saïd i La Goulette - yn cael eu cyfrif yn rhan o Diwnis Fwyaf hefyd. Yn ogystal mae stribyn arall o drefi ar lan ddeheuol Gwlff Tiwnis yn ffurfio estyniad dwyreiniol i'r ddinas, o Rades i Borj Cedria.

Tunis Fwyaf
Mathardal fetropolitan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnis, Manouba, Ben Arous, Ariana Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Ardal Tiwnis Fwyaf yn 1888
Ardal Tiwnis Fwyaf heddiw (delwedd lloeren)

Yr ardal hon oedd 'tir cartref' dinas hynafol Carthago, a safai ar fryn y Byrsa hanner ffordd rhwng La Goulette a Sidi Bou Saïd heddiw. Mae natur y trefi a maerdrefi hyn yn amrywio'n fawr, o ardaloedd preswyl dosbarth gweithiol fel rhannau o Ariana i rai o'r mannau mwyaf breintiedig yn y wlad, fel La Marsa a Carthago. Mae'n cynnwys ardaloedd diwydiannol fel Mégrine a'i gweithfeydd cemegol a Rades i drefi glan môr dymunol fel La Goulette. Amcangyfrir fod tua 1.5 miliwn o bobl (neu hyd at 2 filiwn) yn byw yn yr ardal.

Trefi a phentrefi Tiwnis Fwyaf golygu

Yn ogystal â Thiwnis - Ville Nouvelle a Medina Tiwnis - ceir y lleoedd canlynol (o'r de i'r gogledd, yn fras):

Gweler hefyd golygu