Cadfridog a gwleidydd o Beriw oedd Manuel Arturo Odría Amoretti (26 Tachwedd 189718 Chwefror 1974) a fu'n Arlywydd Periw o 1948 i 1956.

Manuel A. Odría
GanwydManuel Arturo Odria Amoretti Edit this on Wikidata
26 Tachwedd 1897 Edit this on Wikidata
Tarma Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 1974 Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
SwyddMinister of the Interior of Peru, Arlywydd Periw, Arlywydd Periw Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolOdriíst National Union Edit this on Wikidata
MamZoila Amoretti Edit this on Wikidata
PriodMaría Delgado de Odría Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Croes Urdd Siarl III Edit this on Wikidata

Ganed yn Tarma yng nghanolbarth Periw i deulu milwrol. Graddiodd o'r ysgol filwrol ym 1919 ac o'r Coleg Rhyfel ym 1930. Fe'i dyrchafwyd yn frigadydd ym 1946, yn bennaeth staff y fyddin, ac ym 1947 yn weinidog cartref a phennaeth ar yr heddlu dan yr Arlywydd José Bustamente.[1]

Yn Hydref 1948 arweiniodd Odría jwnta filwrol i ddisodli Bustamente, a datganwyd Odría yn arlywydd dros dro. Aeth ati i ddiddymu'r ddeddfwrfa a sefydlu llywodraeth filwrol, ac ymbiliodd ar Unol Daleithiau America am fuddsoddiad a chymorth technegol i geisio sefydlogi economi Periw. Ymddiswyddodd ar 1 Mehefin 1950 i ymgyrchu am yr arlywyddiaeth, mewn etholiad heb yr un ymgeisydd arall yn ei wrthwynebu, a chafodd ei urddo'n arlywydd yn swyddogol ar 28 Gorffennaf 1950.[1]

Defnyddiodd Odría dactegau awdurdodaidd i ostegu ei wrthwynebwyr gwleidyddol. Cryfhaodd yr economi i gychwyn o ganlyniad i'w bolisïau laissez-faire, ond erbyn diwedd ei arlywyddiaeth bu'n wynebu diffyg masnachol a chwyddiant. O ganlyniad i streiciau a phrotestiadau yn erbyn ei lywodraeth, ildiodd Odría yr arlywyddiaeth a chynhaliwyd etholiad rhydd ym 1956. Aeth Odría yn alltud yn wirfoddol, a threuliodd rhywfaint o'i amser yn yr Unol Daleithiau. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth eto ym 1962 ac ym 1963. Bu farw yn Lima yn 76 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Manuel A. Odría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2020.