Laissez-faire
Yn economeg, laissez-faire (lɛse fɛr; byrfodd o'r ymadrodd Ffrangeg laissez faire, laissez aller, laissez passer, "gadewch i ddigwydd, gadewch i fynd, gadewch i basio") yw'r polisi o anymyrraeth fewnwladol gan lywodraeth ym materion economaidd unigol neu ddiwydiannol. Mae'r athrawiaeth yn ffafrio hunan-les cyfalafol, cystadleuaeth, a blaenoriaeth prynwyr fel yr anghenion ar gyfer ffyniant economaidd. Datblygodd yn hwyr y ddeunawfed ganrif gyda gwaith yr economegydd Albanaidd Adam Smith, fel gwrthwynebiad cryf i drethiad masnach a mercantiliaeth.