Manuel A. Odría
Cadfridog a gwleidydd o Beriw oedd Manuel Arturo Odría Amoretti (26 Tachwedd 1897 – 18 Chwefror 1974) a fu'n Arlywydd Periw o 1948 i 1956.
Manuel A. Odría | |
---|---|
Ganwyd | Manuel Arturo Odria Amoretti 26 Tachwedd 1897 Tarma |
Bu farw | 18 Chwefror 1974 Lima |
Dinasyddiaeth | Periw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol |
Swydd | Minister of the Interior of Peru, Arlywydd Periw, Arlywydd Periw |
Plaid Wleidyddol | Odriíst National Union |
Mam | Zoila Amoretti |
Priod | María Delgado de Odría |
Gwobr/au | Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Croes Urdd Siarl III |
Ganed yn Tarma yng nghanolbarth Periw i deulu milwrol. Graddiodd o'r ysgol filwrol ym 1919 ac o'r Coleg Rhyfel ym 1930. Fe'i dyrchafwyd yn frigadydd ym 1946, yn bennaeth staff y fyddin, ac ym 1947 yn weinidog cartref a phennaeth ar yr heddlu dan yr Arlywydd José Bustamente.[1]
Yn Hydref 1948 arweiniodd Odría jwnta filwrol i ddisodli Bustamente, a datganwyd Odría yn arlywydd dros dro. Aeth ati i ddiddymu'r ddeddfwrfa a sefydlu llywodraeth filwrol, ac ymbiliodd ar Unol Daleithiau America am fuddsoddiad a chymorth technegol i geisio sefydlogi economi Periw. Ymddiswyddodd ar 1 Mehefin 1950 i ymgyrchu am yr arlywyddiaeth, mewn etholiad heb yr un ymgeisydd arall yn ei wrthwynebu, a chafodd ei urddo'n arlywydd yn swyddogol ar 28 Gorffennaf 1950.[1]
Defnyddiodd Odría dactegau awdurdodaidd i ostegu ei wrthwynebwyr gwleidyddol. Cryfhaodd yr economi i gychwyn o ganlyniad i'w bolisïau laissez-faire, ond erbyn diwedd ei arlywyddiaeth bu'n wynebu diffyg masnachol a chwyddiant. O ganlyniad i streiciau a phrotestiadau yn erbyn ei lywodraeth, ildiodd Odría yr arlywyddiaeth a chynhaliwyd etholiad rhydd ym 1956. Aeth Odría yn alltud yn wirfoddol, a threuliodd rhywfaint o'i amser yn yr Unol Daleithiau. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth eto ym 1962 ac ym 1963. Bu farw yn Lima yn 76 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Manuel A. Odría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2020.