Manwgan ap Selyf

brenin Teynrnas Powys

Un o frenhinoedd cynnar Powys oedd Manwgan ap Selyf (fl. c. 620). Fel gyda llawer o deyrnoedd Powys yn y cyfnod yma, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano. Roedd yn fab i Selyf ap Cynan, ac mae'n debyg iddo ddod i'r orsedd wedi i'w dad gael ei ladd ym Mrwydr Caer yn 613. Cred rhai i orsedd Powys gael ei chipio oddi arno gan Eiludd Powys, o linach brenhinoedd Dogfeiling.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.