Roedd Dogfeiling yn deyrnas fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd.

Dogfeiling
Mathteyrnas, cwmwd, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDogfael ap Cunedda Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 445 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDyffryn Clwyd (cantref), y Berfeddwlad Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaLlannerch (cwmwd) Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.699°N 3.256°W Edit this on Wikidata
Map
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Yn ôl traddodiad, ffurfiwyd teyrnas Dogfeiling gan Ddogfael, un o feibion Cunedda, brenin teyrnas Gwynedd. Bodolodd teyrnas Dogfeiling, a oedd yn fwy sylweddol na'r cwmwd diweddarach gyda thiriogaeth tua'r un maint â chantref Dyffryn Clwyd, o 445 tua o gwmpas y flwyddyn 700 pan gafodd ei hymgorffori yng Ngwynedd fel rhan o Wynedd Is Conwy (Y Berfeddwlad). Er nad yn fawr nid oedd yn ddibwys, ac ymddengys iddi fedru cystadlu â theyrnas Powys, i'r de-ddwyrain, yn y 7g.

Yn yr Oesoedd Canol, Dogfeiling oedd y pwysicaf o ddau gwmwd Dyffryn Clwyd ac un o'r cyfoethocaf ei dir yn y gogledd. Ei chanolfan oedd Rhuthun. Roedd llawer o dir y cwmwd yn perthyn i esgobaeth Bangor.