Maravillas Lamberto

Lladdwyd Maravillas Lamberto Ioldi (Larraga, Nafarroa, 1922 Mehefin 28 - 1936 Awst 15) yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Roedd ei thad, Vicente Lamberto yn filwriaethwr sosialaidd yn y pentref. Pan ddaeth y Guardia Civil i'r tŷ i chwilio amdano, roedd Maravillas eisiau mynd gyda'i thad. Aethpwyd â hi i Neuadd y Dref, lle cafodd ei threisio tro ar ôl tro, a lladdwyd hi a'i thad. Gadawyd ei chorff yn noeth i'r cŵn gnoi, a llosgwyd y gweddillion.

Maravillas Lamberto
GanwydMaravillas Lamberto Yoldi Edit this on Wikidata
28 Mehefin 1922 Edit this on Wikidata
Larraga Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 1936 Edit this on Wikidata
Larraga Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad y Basg Gwlad y Basg
Galwedigaethwar crime victim Edit this on Wikidata
TadVicente Lamberto Edit this on Wikidata

Teyrngedau golygu

Canodd yr unawdydd o Nafarroa, Fermin Balentzia, gân er anrhydedd iddi, a genir yn aml mewn seremonïau er anrhydedd i'r rhai a saethwyd yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn 2009, perfformiodd y grŵp Berri Txarrak y gân Maravillas ar eu halbwm Payola. Yn ardal Lezkairu ym Mhamplona, penderfynwyd enwi safle Maravillas Lamberto Yoldi er anrhydedd iddi yn 2015.

Ar 2 Rhagfyr 2017, yn ystod seremoni agoriadol swyddogol y ganolfan ieuenctid yn Hen Dref Pamplona, cyhoeddwyd mai Maravillas fyddai enw newydd y safle, er anrhydedd i Maravillas Lamberto. Roedd Josefina, chwaer Marabillas, yn bresennol. Diolchodd Josefina am yr enwi, gan nodi bod cof hanesyddol yn offeryn angenrheidiol ar gyfer peidio ag anghofio troseddau’r gorffennol. [1]

Ar Chwefror 10, 2018, ailenwyd sgwâr yn ardal Lezkairu ym Mhamplona yn Maravillas Lamberto Plaza.[2] Pan geisiodd Llywodraeth Nafarroa i gau'r ganolfan ieuenctid, talodd yr ymgyrchwyd oedd yn meddiannu'r safle deyrnged i Maravillas, ac ymwelodd ei chwaer Josefina unwaith eto.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu