Marchnad Gyffredinol, Wrecsam

adeiladwaith pensaernïol rhestredig Gradd II yn Wrecsam

Marchnad dan do hanesyddol yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Farchnad Gyffredinol (Saesneg: General Market). Adeiladwyd y farchnad yn 1879 o frics coch Rhiwabon[1] ac mae'n dal i weithio heddiw.[2] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Marchnad Gyffredinol
Mathneuadd marchnad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1879 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhos-ddu Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr81 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.045948°N 2.992111°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd y farchnad ar safle Sgwâr Manceinion, hen farchnad awyr agored a ddefnyddid gan fasnachwyr yn ystod ffeiriau blynyddol.[3]

Saif y farchnad ar Stryt Henblas yng nghanol y ddinas gyferbyn â mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion ac adeiladwyd mynedfa'r Farchnad Gyffredinol yn yr un dull â hi.[4]

Cofrestrwyd y Farchnad Gyffredinol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru â'r rhif NPRN 313. [1]

Lluniau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Wrexham General Market - Coflein". Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.
  2. "Marchnadoedd canol tref Wrecsam". Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.
  3. "General Market building, Rhosddu, Wrexham". Cyrchwyd 7 June 2022.
  4. "Butcher's Market, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.