Maredudd ap Gruffudd
Roedd Maredudd ap Gruffudd (c. 1130 - 1155) yn dywysog Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.
Maredudd ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 1130 |
Bu farw | 1155 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Swydd | tywysog |
Tad | Gruffudd ap Rhys |
Mam | Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan |
Bywgraffiad
golyguMaredudd oedd mab hynaf Gruffydd ap Rhys gan Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan, er fod ganddo ddau hanner-brawd hŷn, Anarawd a Cadell. Nid oedd Maredudd on chwech oed pan laddwyd ei fam yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yn fuan wedyn bu farw ei dad. Pan oedd yn 16 mae cofnod amdano yn cynorthwyo ei frawd Cadell, oedd erbyn hyn yn dywysog Deheubarth, i yrru'r Normaniaid allan o Geredigion. Ychydig yn ddiweddarach llwyddodd i amddiffyn castell Caerfyrddin yn erbyn ymosodiad Normanaidd.[1]
Yn 1151 bu ganddo ran flaenllaw yn y gwaith o ad-ennill gogledd Ceredigion oddi wrth Gwynedd. Yr un flwyddyn ymosodwyd ar Cadell gan griw o Normaniaid pan oedd allan yn hela. Gadawodd y Normaniaid ef gan gredu ei fod wedi marw. Llwyddwyd i achub ei fywyd, ond roedd wedi ei anafu yn rhy ddifrifol i barhau fel tywysog Deheubarth, ac i bob pwrpas Maredudd oedd yn rheoli o hynny ymlaen. Yn 1153 gadawodd Cadell ar bererindod i Rufain, gan adael Maredudd yn dywysog Deheubarth.[1]
Bu farw Maredudd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1155, gan adael ei frawd iau Rhys (a elwid Yr Arglwydd Rhys yn nes ymlaen) yn dywysog.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmams, Green & Co.).
O'i flaen : Cadell ap Gruffudd |
Teyrnoedd Deheubarth Maredudd ap Gruffudd |
Olynydd : Rhys ap Gruffudd |