Margaret Heitland
Newyddiadurwr ffeministaidd a swffragét o Loegr oedd Margaret Heitland (27 Chwefror 1860 - 31 Mai 1938) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Margaret Heitland | |
---|---|
Ganwyd | Margaret Bateson 27 Chwefror 1860 Caergrawnt |
Bu farw | 31 Mai 1938 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Tad | William Henry Bateson |
Mam | Anna Bateson |
Priod | William Emerton Heitland |
Perthnasau | Gregory Bateson |
Magwraeth a gyrfa
golyguGaned Margaret Bateson yng Nghaergrawnt ar 27 Chwefror 1860 a bu farw yno hefyd. Roedd yn ferch i William Henry Bateson a oedd yn bennaeth ar Coleg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn 1901 priododd William Emerton Heitland, clasurwr o Goleg sant Ioan. Cawsant fab a merch: Gregory Bateson, seibrnetegydd a'r hanesydd Mary Bateson. Roedd yn chwaer i'r genetegydd William Bateson. Fe'i claddwyd yn Ascension Parish Burial Ground, Caergrawnt, gyda'i gŵr.[1][2][3]
Roedd ei mam a'i dwy chwaer yn credu'n gry yn nhegwch a hawliau cyfartal i ferched ac etholfraint.[4]
Roedd gan Margaret ddiddordeb mewn newyddiaduraeth y dechreuodd ddilyn y gyrfa yma yn 1886. Cafodd ei phenodi ar staff y cylchgrawn the Queen lle bu'n gweithio am y rhan fwyaf o'i gyrfa.[5] Yn 1888, trefnodd ymgyrch a chyfarfodydd ar gyfer Cymdeithas Etholfraint y Menywod (the Women's Suffrage Society) ac yn 1895 cyhoeddodd Professional Women upon their Professions.
Ymgyrchydd cymdeithasol
golyguYm 1913 daeth yn Llywydd Cymdeithas Etholfraint Menywod Caergrawnt, yn aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint y Menywod ac yn is-lywydd y Central Bureau for the Employment of Women.[6]
Yn 1912, fel aelod o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint y Merched, ysgrifennodd lythyr i Maud Arncliffe Sennett yn datgan y dylai dynion a menywod gael yr hawl i fyw o dan amgylchiadau gwell.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ "Papers of Margaret Heitland - Archives Hub". Cyrchwyd 2017-03-10.
- ↑ the women's suffrage movement: a reference guide 1866-1928. t. 282. ISBN 1-84142-031-X.
- ↑ Archives, The National. "The Discovery Service". discovery.nationalarchives.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-03-10.