Margaret Jones
Awdur teithio o Gymru oedd Margaret Jones (Mawrth 1842 – 18 Hydref 1902). Daeth yn adnabyddus am ysgrifennu am ei theithiau mewn gwledydd dramor a gyhoeddwyd o dan y ffugenw Y Gymraes o Ganaan.
Margaret Jones | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
- Am yr arlunydd o'r un enw, gweler Margaret Jones (arlunydd).
Roedd yn hannu o Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Cychwynnodd ei gyrfa fel llawforwyn i deulu yn Lloegr, cyn treulio blynyddoedd lawer yn teithio a gweithio ym Mhalesteina [1][2] a Libanus yn gyntaf, Moroco yn ddiweddarach, ac yna Unol Daleithiau America ac Awstralia, cyn setlo i briodi yn Awstralia yn hwyrach yn ei bywyd. Cyhoeddwyd llawer o'i llythyron o Balesteina, at ei theulu yn ôl yng Nghymru, yn 1869 dan y teitl, Llythyrau Cymraes o Wlad Canaan [3], ac yna wedi treulio peth amser yn Moroco ar daith wahanol, cyhoeddwyd disgrifiad o'u profiadau yno yn 1883 dan y teitl, Moroco a'r Hyn a Welais Yno.[4]
Aeth wedyn ar daith drwy'r Unol Daleithiau gan fynd ymhellach eto i gyfandir Awstralia ble priododd ffarmwr o'r enw Josey. Bu farw ar 18 Hydref 1902 yn Redbank Plains, Queensland, Awstralia.